Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu – Ebrill 5 2024

Yr wythnos hon, dechreuodd ein hymgyrch gynnig brechiad atgyfnerthu rhag COVID-19 y Gwanwyn i tua 100,000 o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Ngogledd Cymru

Bydd brechiad atgyfnerthu’r Gwanwyn yn helpu i amddiffyn pobl hŷn ac oedolion a phlant sydd â system imiwnedd wan rhag salwch difrifol a achosir gan y feirws. 

Rydym yn annog pawb sy’n gymwys ar gyfer y brechlyn i fanteisio ar y cyfle i atgyfnerthu eu hamddiffyniad yn erbyn COVID-19 y Gwanwyn hwn.

 

Oedolion sy’n byw mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn

Mae timau brechu yn blaenoriaethu grwpiau cymwys yn ôl anghenion clinigol, ac maent wedi dechrau ymweld â chartrefi gofal i frechu oedolion hŷn ar draws y rhanbarth.

Bydd ein timau yn parhau i ymweld â chartrefi gofal yn eu tro dros yr wythnosau nesaf.

 

Pobl 75 oed a hŷn

Bydd pobl 75 oed a hŷn yn cael cynnig brechiad atgyfnerthu rhag COVID-19 y Gwanwyn yn un o’n canolfannau brechu cymunedol yn ystod mis Ebrill, mis Mai a mis Mehefin.

Bydd yr apwyntiadau cyntaf yn ein canolfannau brechu cymunedol yn cael eu cynnal o ganol mis Ebrill ymlaen.

Mae llythyrau apwyntiad, sy’n cynnwys lleoliad, dyddiad ac amser eich slot brechu, eisoes wedi cael eu postio at y bobl gyntaf sydd am gael gwahoddiad. Cyhoeddir rhagor o wahoddiadau yn nhrefn blaenoriaeth dros yr wythnosau nesaf. Byddwn yn ysgrifennu atoch pan fydd yn amser i chi gael apwyntiad.

Byddwch yn amyneddgar – nid oes angen cysylltu â'n tîm. Gwiriwch eich llythyr gwahoddiad yn ofalus oherwydd efallai bod lleoliad eich apwyntiad brechu yn wahanol i leoliad eich apwyntiad blaenorol.

 

Pobl sy’n gaeth i’r cartref

Byddwn yn cysylltu â phobl sy’n gaeth i’r cartref er mwyn gwneud trefniadau iddynt gael eu brechiad.

 

Oedolion a phlant sydd â system imiwnedd wan

Bydd oedolion a phlant chwe mis oed a hŷn, sydd â system imiwnedd wan, hefyd yn cael cynnig y brechiad atgyfnerthu rhag COVID-19 y Gwanwyn yn un o’n canolfannau brechu.

Rydym yn hynod awyddus i annog oedolion a phlant sydd â system imiwnedd wan (fel y diffinnir gan dabl 3 a 4 o’r Llyfr Gwyrdd) i ddod i dderbyn eu brechlyn pan maent yn cael gwahoddiad.

 

Diwedd rhaglen brechiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref

Daeth ein hymgyrch brechiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref i ben ar 28 Mawrth. Rhwng mis Medi a mis Mawrth, cyflwynodd y Bwrdd Iechyd frechiadau atgyfnerthu COVID-19 i fwy na 175,000 o bobl.

Hoffem ddiolch i bobl Gogledd Cymru am ddod i dderbyn eu brechlyn mewn niferoedd uchel, sydd wedi helpu i atgyfnerthu eu hamddiffyniad a lleihau nifer yr achosion difrifol o COVID-19 yn ein cymunedau y gaeaf hwn.