Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu – Chwefror 29 2024

Mae gan bobl rhwng 65 a 74 oed nad ydyn nhw wedi derbyn pigiad atgyfnerthu COVID-19 yr Hydref hyd at Fawrth 28 i alw i mewn i un o'n canolfannau brechu cymunedol i hybu eu hamddiffyniad rhag y feirws

Ers i'r rhaglen ddechrau ym mis Medi, mae mwy na 175,000 o bobl gymwys yng Ngogledd Cymru wedi cael y pigiad atgyfnerthu. 

 

Diwedd rhaglen atgyfnerthu'r hydref

Byddwn yn rhoi’r gorau i gynnig pigiad atgyfnerthu COVID-19 yr Hydref ar 28 Mawrth.

Mae'r bwrdd iechyd yn gofyn i unrhyw un sy'n gymwys i gael y brechlyn ond sydd heb ei gael hyd yma, i wneud trefniadau i gael y brechlyn yn y pedair wythnos nesaf.

Rydym yn arbennig o awyddus i annog pobl rhwng 65 a 74 oed ac unrhyw un sydd â system imiwnedd wannach na'r cyffredin, i ychwanegu at eu hamddiffyniad a lleihau eu risg o salwch difrifol.

Gallwch wirio a ydych chi’n gymwys yma. Mae manylion ein clinigau brechu galw i mewn gan gynnwys lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd yma.

 

Pam ei bod yn bwysig cael pigiad atgyfnerthu'r Hydref

Mae'n bwysig cael dosau atgyfnerthu er mwyn helpu cynnal lefel uchel o amddiffyniad rhag COVID-19. ​ Os na fyddwch chi’n derbyn y cynnig i gael y pigiad atgyfnerthu, gallech fod yn fwy agored i'r feirws.

Ni fydd pobl rhwng 65 a 74 oed yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu arall fel rhan o ymgyrch y Gwanwyn.

 

Rhaglen brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 y Gwanwyn

Yn dilyn canllawiau a gyhoeddwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a Llywodraeth Cymru, mae ein timau wrthi'n cynllunio rhaglen brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 y Gwanwyn yng Ngogledd Cymru.

O 2 Ebrill, byddwn yn dechrau cynnig brechlyn atgyfnerthu i:

  • oedolion 75 mlwydd oed neu'n hŷn
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn
  • pob oedolyn a phlant chwe mis oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan (fel y'i diffinnir gan dablau 3 a 4 y Llyfr Gwyrdd).

Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion am ein cynlluniau yn fuan.

Bydd brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 y Gwanwyn yn cael ei gynnig i gleifion tua chwe mis ar ôl eu dos olaf o'r brechlyn. ​ Fel mewn ymgyrchoedd blaenorol, bydd ein timau’n rhoi gwahoddiadau i bawb sy’n gymwys ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu ac yn gweithio gyda rheolwyr cartrefi gofal i gynnig brechiadau.