Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu - 27 Mehefin 2023

Gyda dim ond ychydig o ddyddiau ar ôl o raglen pigiadau atgyfnerthu’r gwanwyn COVID-19, rydym ni’n annog pawb sy’n gymwys i gael brechiad i ddod yn eu blaenau i atgyfnerthu eu hamddiffyniad yn erbyn COVID-19. Mae brechiadau ar gael o’n clinigau galw heibio heb orfod gwneud apwyntiad tan ddydd Gwener 30 Mehefin. 

Mae pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn yn cael ei gynnig i bob oedolyn sy’n 75 oed a hŷn, preswylwyr mewn cartrefi gofal i bobl hŷn, ac unigolion sy’n 5 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan. Dylai’r rhai sy’n gymwys ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu fod wedi derbyn gwahoddiad drwy lythyr a/neu drwy neges destun.

Gall unrhyw un sydd heb gael eu dosau sylfaenol o’r brechlyn COVID-19 gael dos unigol o hyd drwy fynychu un o’r clinigau galw heibio cyn dydd Gwener.

Nid oes angen trefnu apwyntiad. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am le y bydd y brechiadau ar gael drwy ymweld â’n tudalennau clinigau galw heibio brechu COVID-19.

Os ydych chi wedi methu eich apwyntiad

Os ydych chi wedi derbyn apwyntiad ar gyfer eich brechlyn atgyfnerthu’r gwanwyn COVID-19 ond nad oeddech chi’n gallu mynychu oherwydd salwch, gallwn ni aildrefnu eich apwyntiad tan 18 Gorffennaf. Ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 03000 840004 i aildrefnu eich apwyntiad.

Bydd preswylwyr sy’n gaeth i’r cartref ac sydd heb gael eu brechiad atgyfnerthu, naill ai drwy ddod yn gymwys yn ddiweddar neu drwy beidio â bod ar gael ar gyfer apwyntiad wedi'i drefnu ymlaen llaw, yn gallu cael eu brechu mewn cerbyd os gallent fynychu un o’n canolfannau brechu er mwyn ei gwneud mor hygyrch â phosibl, gan y bydd yn anodd cyrraedd unigolion newydd sy’n gaeth i’r cartref yn y grŵp hwn cyn 30 Mehefin.

Gwell amddiffyniad i bobl sydd fwyaf mewn perygl o COVID-19

Mae mwy na 81.5% o’r bobl sydd fwyaf mewn perygl mewn cymunedau ar draws Gogledd Cymru wedi cael eu pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn, gan ragori ar y targed cenedlaethol o 75%. Hoffem ddiolch i bobl sydd wedi mynychu eu hapwyntiadau, y cartrefi gofal yr ydym ni wedi gweithio gyda nhw ar draws Gogledd Cymru sydd wedi ein helpu ni i amddiffyn preswylwyr, ac i’n staff a’n gwirfoddolwyr am eu holl waith caled ar ein rhaglen.

Mae pobl sydd wedi derbyn gwahoddiad drwy’r post yn cael eu hannog o hyd i fynychu’r apwyntiad a drefnwyd os yw’n bosibl, ond os ydych chi angen canslo neu aildrefnu’r apwyntiad, yna rhowch wybod i ni drwy’r Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 gan fod methu apwyntiadau yn effeithio ar ein hadnoddau.

Gellir cysylltu â’r Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004, sydd ar agor rhwng 8am a 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am i 2pm ar y penwythnos.