Mae rhaglen pigiadau atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn yn cael ei chynnal rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin. Bydd pigidau atgyfnerthu’r gwanwyn yn cael eu darparu gan Ganolfannau Brechu ac nid gan feddygon teulu a fferyllfeydd.
Bydd pigiadau atgyfnerthu’r gwanwyn yn cael eu cynnig i:
Bydd y rhai sy’n gymwys yn cael eu gwahodd drwy lythyr, fel mewn ymgyrchoedd blaenorol, ac rydym yn gofyn i bobl aros am eu hapwyntiad yn hytrach na ffonio i gadw lle. Bydd y ddarpariaeth yn canolbwyntio ar gartrefi gofal a dinasyddion sy’n gaeth i’r cartref yn ystod yr wythnosau cyntaf, gan symud ymlaen wedyn at bobl 75 mlwydd oed abl a phobl sydd â system imiwnedd wan.
Os oes gennych ymholiadau yn ymwneud â’ch gwahoddiad neu i aildrefnu eich apwyntiad, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004, sydd ar agor rhwng 8am a 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 2pm ar y penwythnosau.