Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarth Dau: Faint rydyn ni'n ei wario a sut

Yma fe welwch chi: 

Datganiadau ariannol, cyllidebau ac adroddiadau amrywedd
Adroddiadau archwilio ariannol
Rhaglenni cyfalaf

Rydyn ni'n defnyddio canllawiau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ein rhaglenni cyfalaf. Pan fydd manylion a gwybodaeth ar gael am ein rhaglenni cyfalaf, byddan nhw'n cael eu cyhoeddi ar ein gwefan. 

Cynllun dirprwyo 
  • Dogfen cynllun dirprwyo (wrthi'n cael ei hadolygu ar hyn o bryd)
Lwfansau a threuliau uwch aelodau o staff ac aelodau'r Bwrdd
Strwythurau tâl a graddfeydd staff 

Mae'r cyflogau'n cael eu cytuno â'r graddfeydd tâl Agenda ar gyfer Newid yng Nghymru. 

Cyllid (gan gynnwys cronfeydd gwaddol) 
  • Yn Awyr Las (teitl gwaith Elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - BIPBC), mae nifer o gronfeydd penodol sy'n cael eu clustnodi ar gyfer meysydd a/neu wasanaethau penodol. Mae'r cronfeydd penodol hyn at ddibenion mewnol yn unig ac nid ydyn nhw wedi cael eu cofrestru â'r Comisiwn Elusennau.
  • Mae gwybodaeth am ein cyfrifon ar gael yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolaeth.
Gweithdrefnau caffael a thendro 
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn dilyn Gwasanaethau Caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae hyn yn darparu system gyflawn o'r Caffael i'r Talu ar gyfer pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru.
  • Bydd Llawlyfr Gweithdrefn BIPBC ar gyfer Rheoli Prosiectau Cyfalaf yn cael ei ddefnyddio i reoli gwariant cyfalaf sydd â gwerth cyfalaf dros £1miliwn. Mae'n cael ei ddefnyddio ar y cyd â'r cyhoeddiadau perthnasol, ac yn benodol mae'n rhaid i Fuddsoddiadau Cyfalaf gyd-fynd â Chanllawiau Buddsoddi mewn Seilwaith GIG Cymru.

  • Mae Adendwm Llawlyfr Gweithdrefn BIPBC ar gyfer Rheoli Prosiectau Cyfalaf yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau llai sydd â gwerth cyfalaf rhwng £25,000 a £1miliwn.

    Mae rhagor o wybodaeth am brosesau caffael a thendro BIPBC ar gael yn Rheolau Sefydlog a Chyfarwyddiadau Ariannol y Bwrdd Iechyd. 

Manylion contractau sy'n cael eu tendro ar hyn o bryd 
  • Mae manylion contractau yn y DU sy'n cael eu tendro ac sy'n werth dros £25,000 yn cael eu hysbysebu ar wefan Llywodraeth Cymru GwerthwchiGymru www.gwerthwchigymru.gov.uk.

  • Mae contractau sydd werth mwy na throthwyon caffael cyfredol yr UE yn cael eu hysbysebu drwy Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU). Y trothwy ar gyfer contractau Cyflenwi a Gwasanaethau ydy £118,133 ac yna £4,551,413 ar gyfer contractau Gwaith. Y llwybr caffael ar gyfer contractau Gwaith ar y trothwy hwn ydy drwy'r Fframwaith Design4Life.

  •  Mae rhagor o wybodaeth am y prosesau caffael a thendro ar gael yn y Rheolau Sefydlog a Chyfarwyddiadau Ariannol.
Rhestr o'r contractau sydd wedi cael eu dyfarnu a'u gwerth 
Manylion contractau sy'n cael eu tendro ar hyn o bryd