Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau profi yn mynd o'r clinig ac i'r gymuned fel rhan o'r ymgyrch i drechu HIV

Tachwedd 24, 2023

Aeth staff ein gwasanaethau iechyd rhywiol â'r ymgyrch yn erbyn y feirws o'r clinig ac i'r gymuned i nodi Wythnos Profi HIV Cymru.

Am y tro cyntaf, cynigiodd aelodau o'n timau brofion pwynt gofal ar gyfer HIV mewn sesiynau dros dro mewn lleoliadau cymunedol ym Mangor a Wrecsam.

Roedd cyfle i’r rhai a gymerodd ran gael prawf pigiad bys â’r canlyniadau o fewn 20 munud, a chael cyngor am iechyd a lles rhywiol.

Dywedodd Dr Ushan Andrady, Meddyg Ymgynghorol Iechyd Rhywiol a HIV yn Ysbyty Gwynedd: “Mae profi yn un o’r ffyrdd allweddol y gallwn fynd i’r afael â HIV wrth i ni anelu at gyrraedd targed Llywodraeth Cymru sef peidio â chael heintiau newydd erbyn 2030.

“Rydym ni’n falch iawn ein bod wedi ei gwneud hi’n hawdd cael gafael ar y profion – ac rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan mewn mwy o fentrau i normaleiddio a chynyddu cyfraddau profion HIV yng Ngogledd Cymru.”

Cynhaliwyd sesiwn brysur yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn gynharach yr wythnos hon, ac roedd profion hefyd yn cael eu cynnig mewn digwyddiad cymunedol LHDTC+ Pride Wrecsam a gynhaliwyd yng Nghlwb Rygbi Wrecsam.

Cafodd y timau iechyd rhywiol gymorth gan gydweithwyr o wasanaethau Lleihau Niwed a Diogelu Iechyd y Bwrdd Iechyd.

Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Fast Track Gogledd Cymru – rhan o rwydwaith Fast Track Cymru, sy’n ceisio rhoi terfyn ar HIV yng Nghymru a helpu cymunedau i gyrraedd y targedau rhyngwladol ar gyfer atal a thrin.

 

Triniaeth ar gyfer HIV

Y llynedd, cafodd 101 o bobl yng Nghymru ddiagnosis o HIV. Roedd un o bob tri yn ferched.

Mae datblygiadau clinigol yn galluogi pobl â HIV i fyw bywydau hir ac iach. Mae triniaethau ar gael hefyd sy’n gallu atal pobl sy'n byw gyda HIV rhag trosglwyddo'r feirws i eraill. 

Ond mae'n bwysig cael diagnosis o'r feirws yn gynnar. Yn 2022, cafodd mwy na phedwar o bob 10 claf HIV newydd yng Nghymru ddiagnosis hwyr ac roedd yr haint wedi datblygu cyn y gallai’r driniaeth ddechrau.

Mae diagnosis hwyr yn cynyddu'r risg o salwch, cymhlethdodau a throsglwyddo HIV i eraill.

Fel arfer, bydd pobl sy’n cael diagnosis hwyr wedi bod yn byw gyda HIV ers tua thair i bum mlynedd cyn cael diagnosis.

 

Profion cyfrinachol am ddim

Mae’r prawf yn rhad ac am ddim, yn hawdd i’w wneud ac yn gyfrinachol. Gall unrhyw un yng Nghymru archebu pecyn am ddim ar-lein er mwyn profi gartref yn gyfrinachol, neu gallant ymweld â chlinig iechyd rhywiol lleol.