Neidio i'r prif gynnwy

HIV

HIV (firws diffyg imiwnedd dynol) yw firws sy'n niweidio'r celloedd yn eich system imiwnedd ac yn gwanhau eich gallu i ymladd heintiau a chlefydau bob dydd.

AIDS (syndrom diffyg imiwnedd) yw'r enw a ddefnyddir i ddisgrifio nifer o heintiau a salwch all fygwth bywyd sy'n digwydd pan mae eich system imiwnedd wedi'i niweidio gan y firws HIV. Er na all AIDS gael ei drosglwyddo o un unigolyn i’r llall, fe all y firws HIV.

Ar hyn o bryd nid oes gwellhad ar gyfer HIV, ond mae triniaeth cyffuriau effeithiol iawn sy'n galluogi i bobl sydd â'r firws fyw bywyd hir ac iach.

Gofal HIV

Defnyddir meddyginiaeth gwrthretrofirol i drin HIV. Maent yn gweithio drwy atal y firws rhag dyblygu yn y corff, gan alluogi i'r system imiwnedd drwsio ei hun ac atal niwed pellach. Mae'r rhain ar gael ar ffurf tabledi, ac mae angen eu cymryd bob diwrnod.

Mae HIV yn gallu datblygu ymwrthedd i feddyginiaeth HIV unigol yn hawdd iawn, ond mae cymryd cyfuniad o wahanol feddyginiaethau'n gwneud hyn yn llai tebygol. Mae'n hanfodol eich bod yn cymryd y rhain bob diwrnod fel yr argymhellir gan eich meddyg.

Nod triniaeth HIV yw cael llwyth firaol anghanfyddadwy. Golyga hyn fod lefel y firws HIV yn eich corff yn ddigon isel i beidio â chael ei ganfod gan brawf. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ofal HIV ar wefan GIG 111 Cymru.

Profion HIV

Yr unig ffordd o wybod os oes gennych HIV yw drwy gael prawf HIV, gan y gall symptomau o HIV beidio ag ymddangos am lawer o flynyddoedd. Dylai unrhyw un sy'n meddwl fod ganddynt HIV gael prawf. Mae profion HIV yn cael eu darparu i unrhyw un am ddim gan y GIG a gall nifer o glinigau roi'r canlyniadau i chi ar yr un diwrnod. Fe allwch chi hefyd brynu prawf ar-lein neu gan rai fferyllfeydd, neu archebwch brawf am ddim gan Iechyd Rhiwiol Cymru.

Mae rhai grwpiau o bobl mewn risg uwch ac fe'u cynghorir i gael profion rheolaidd:

  • cynghorir dynion sy'n cael rhyw gyda dynion i gael prawf HIV o leiaf unwaith y flwyddyn, neu bob 3 mis os ydynt yn cael rhyw heb ddiogelwch gyda phartneriaid newydd neu dros dro.
  • Y rhai sy'n rhannu nodwyddau, chwistrellau neu offer chwistrellu eraill.

Dylech gael cyngor meddygol ar unwaith os ydych yn meddwl fod siawns fod HIV arnoch. Po gynharaf y caiff ei ddiagnosis, y cynharaf y gallwch ddechrau triniaeth ac osgoi mynd yn ddifrifol wael.

 Efallai y bydd angen ailadrodd rhai profion HIV 1-3 mis ar ôl dod i gysylltiad â haint HIV, ond ni ddylech aros cyhyd i ofyn am help. Gall eich meddyg teulu neu weithiwr proffesiynol iechyd rhyw siarad â chi am gael prawf a thrafod a ddylech gymryd meddyginiaeth HIV brys.

Mae pedwar prif fath o brawf HIV:

  • Prawf gwaed - lle cymerir sampl o waed mewn clinig a'i anfon i'w brofi mewn labordy. Mae'r canlyniadau fel arfer ar gael ar yr un diwrnod neu o fewn ychydig ddyddiau
  • Prawf pwynt gofal - lle cymerir sampl o boer o'ch ceg neu smotyn bach o waed o'ch bys mewn clinig. Nid oes angen anfon y sampl hon i labordy ac mae'r canlyniad ar gael o fewn ychydig funudau. Nid yw ar gael yn eang yng Ngogledd Cymru
  • Pecyn sampl gartref - lle rydych chi'n casglu sampl poer neu smotyn bach o waed gartref a'i anfon yn y post i'w brofi. Cysylltir â chi dros y ffôn neu drwy neges destun gyda'ch canlyniad mewn ychydig ddyddiau.  Gallwch eu prynu ar-lein neu mewn rhai fferyllfeydd.
  • Pecyn profi cartref - lle rydych chi'n casglu sampl poer neu smotyn bach o waed eich hun a'i brofi gartref. Mae'r canlyniad ar gael o fewn munudau. Mae'n bwysig gwirio bod gan unrhyw brawf a brynwch farc sicrhau ansawdd CE a'i fod wedi'i drwyddedu i'w werthu yn y DU, oherwydd gall hunan-brofion HIV sydd ar gael o dramor fod o ansawdd gwael

PrEP

Proffylacsis cyn amlygiad, neu PrEP yw ble rydych fel arfer yn cymryd cyffuriau i drin haint HIV, i leihau'r risg o gael eich heintio gyda HIV.

Mae PrEP ar gael am ddim i breswylwyr Cymru. Bydd angen i chi fodloni meini prawf penodol a dangos tystiolaeth eich bod yn breswylydd yng Nghymru er mwyn cael mynediad at PrEP drwy glinigau yng Nghymru.

Mae  PrEP ar gyfer pobl heb HIV sydd â risg uchel iawn o'i gael o'u hymddygiad rhywiol neu eu hamlygiad posibl i haint HIV, felly os ydych chi'n HIV negyddol, a ddim bob amser yn defnyddio condomau, yna gallai PrEP helpu i leihau eich risg o gael HIV. Nid yw PrEP yn atal yn erbyn trosglwyddiad STI eraill - mae angen i chi ddefnyddio condomau i'ch diogelu rhag STI. I gael gwybod mwy, ewch ar wefan Cymru Chwareus. 

Gellir prynu PrEP ar-lein a'i fewnforio i mewn i'r DU, heb dorri unrhyw gyfreithiau. Mae nifer o wefannau ble gallwch brynu fersiynau generig o Truvada® sy'n rhatach o lawer. Gellir cael mynediad at y safleoedd hyn drwy'r wefan I Want PrEP Now. Am fwy o wybodaeth a manylion ynghylch sut i gymryd PrEP, gallwch edrych ar y dudalen hon ar wefan I Want PrEP Now.

PEP/PEPSE

Mae proffylacsis ôl-amlygiad (PEP) yn driniaeth sy'n cael ei ddefnyddio i leihau'r risg o gael haint HIV ar gyfer pobl all fod wedi cael eu hamlygu i HIV. Mae hyn yn cynnwys pobl yr ymosodwyd yn rhywiol arnynt, pobl sydd wedi cael rhyw heb ddiogelwch neu wedi rhannu nodwydd gyda phobl sy'n HIV positif neu sydd mewn mwy o berygl o fod yn HIV positif.  

Mae'n rhaid i chi ddechrau'r driniaeth cyn gynted â phosibl ar ôl i chi gael eich amlygu i HIV, yn sicr cyn pen 72 awr ac ni fydd fel arfer yn cael ei ragnodi ar ôl 72 awr. Dylid cymryd y feddyginiaeth bob diwrnod am 28 diwrnod (4 wythnos). Cynghorir gweithwyr gofal iechyd all fod wedi'u hamlygu i'r firws (e.e drwy anaf gyda nodwydd) i gysylltu â'r adran iechyd galwedigaethol i gael mynediad at PEP.

Mae PEP yn gwneud haint HIV yn llai tebygol. Fodd bynnag, nid yw'n wellhad ar gyfer HIV ac nid yw'n gweithio ym mhob achos.

Mae PEP ar gael am ddim gan y GIG, ond bydd yn cael ei roi i bobl sy'n bodloni canllawiau ynghylch ei ddefnydd yn unig. Y lle gorau i gael PEP yw clinig rhyw neu glinig HIV. Os oes arnoch angen PEP dros y penwythnos neu y tu allan i oriau swyddfa, pan fydd y clinigau ar gau, y lle gorau i chi fynd yw'r Adran Achosion Brys. Dysgwch fwy am PEP ar wefan ymddiriedolaeth Terrence Higgins.

 

Lleoliad Clinig

Mae gennym glinigau mewn ysbytai ac yn y gymuned ar draws Gogledd Cymru. Am fwy o fanylion am y clinigau a'u horiau agor, dewiswch yr ardal yr hoffech gael eich gweld:

Prawf cartref

Archebu pecyn profi i phostio gan Iechyd Rhywiol Cymru.

 

Gwefannau ac adnoddau defnyddiol