Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi bwydo ar y fron: tair ardal yng ngogledd Cymru yn cael eu cydnabod am eu cymorth ar gyfer mamau a babanod

Awst 4, 2023

Mae tair ardal yng ngogledd Cymru wedi cael eu cydnabod am y croeso a'r anogaeth maent yn eu rhoi i famau sy'n bwydo ar y fron.

Abergele, Llanberis a Pharc Caia yn Wrecsam yw'r rhannau cyntaf o ogledd Cymru i gael eu henwi fel Cymunedau sy'n Croesawu Bwydo ar y Fron oherwydd y cymorth eang sydd ar gael i famau, babanod a'u teuluoedd.

Mae gan y tri lleoliad rwydweithiau cymorth effeithiol ar gyfer cymheiriaid a chymorth ar y cyd, grwpiau cymunedol pwrpasol dan arweiniad ymwelwyr iechyd sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, a chefnogaeth gref o ran bwydo ar y fron yn y gymuned fusnes leol. Mae mwy na hanner y busnesau a'r lleoliadau annibynnol ym mhob ardal wedi cofrestru ar gyfer Cynllun sy'n Croesawu Bwydo ar y Fron y bwrdd iechyd, sy'n annog sefydliadau a busnesau i greu amgylchedd positif ar gyfer bwydo ar y fron.

Gall teuluoedd nawr edrych ar ein map ar-lein hawdd ei ddefnyddio i ddod o hyd i leoliadau sy'n aelodau o'n cynllun, neu cadwch olwg am ein logo yn y ffenestr.

Bu'r bwrdd iechyd yn gweithio gyda Dewis Cymru i greu'r canllaw rhyngweithiol i fusnesau a lleoliadau eraill sydd wedi cofrestru eu cefnogaeth ar gyfer bwydo ar y fron. Dyma’r tro cyntaf i leoliadau sy'n croesawu bwydo ar y fron gael eu mapio fel hyn unrhyw le yng Nghymru.

Mae bwydo ar y fron yn arwain at lawer o fuddion iechyd a lles hirdymor i famau a'u babanod. Mae'n amddiffyn yn erbyn heintiau cyffredin ac mae'n helpu i leihau'r risg o rai mathau o salwch difrifol.

Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Betsi Cadwaladr: "Rydym ni'n awyddus i wneud popeth o fewn ein gallu i annog a chefnogi bwydo ar y fron, ac un o'r ffyrdd y gallwn helpu mamau i barhau i fwydo ar y fron yw gwneud y broses mor rhwydd a chyfforddus â phosibl wrth fwydo tra byddant ar grwydr.

"Mae ein hymwelwyr iechyd, arbenigwyr bwydo babanod a chyfeillion cefnogol yn cynnig llawer o gymorth i famau sy'n bwydo ar y fron yn yr holl ardaloedd yng ngogledd Cymru - ond mae hefyd yn galonogol gweld cefnogaeth mor gryf o ran bwydo ar y fron yn Abergele, Parc Caia a Llanberis, ac yn enwedig cymorth mor wych gan y gymuned fusnes leol yn yr ardaloedd hyn.

“Byddem wrth ein boddau o ddyblygu llwyddiant yr ardaloedd hyn ar draws y rhanbarth cyfan - ac annog mwy o fusnesau sy'n bositif dros gefnogi bwydo ar y fron i ddangos eu cefnogaeth a gosod eu hunain ar y map trwy gofrestru ar gyfer ein cynllun Croesawu i Fwydo ar y Fron.”

🔵 Mae rhagor o wybodaeth am gymorth bwydo ar y fron yn eich ardal chi ar gael gan eich ymwelydd iechyd neu ein grwpiau Facebook Cyfeillion Bwydo ar y Fron. 

🔵 Gallwch weld ein map ar-lein sy'n hwylus ei ddefnyddio er mwyn dod o hyd i'r holl fusnesau a lleoliadau sy'n aelodau o'n cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron.

 

Abergele: “Mae grwpiau fel hwn mor bwysig…”

 

Mae Sara Jones, sy'n Ymwelydd Iechyd Bwydo ar y Fron i Fabanod, yn cynnal grŵp cymorth bwydo ar y fron wythnosol yng Nghanolfan Dinorben yn Abergele.

Dywedodd fod ysbryd cymunedol cryf y dref yn helpu mamau sy'n bwydo ar y fron i helpu ei gilydd.

"Mae grwpiau bwydo ar y fron fel hwn mor bwysig," meddai. "Gwnaethant roi ffordd hawdd iawn i famau newydd gael cymorth a gwybodaeth gan weithiwr proffesiynol - mae modd galw heibio felly nid oes unrhyw bwysau, ond rydym ni yno os bydd ar famau ein hangen ni.

"Mae'n anffurfiol iawn, ac mae mamau sy'n galw heibio yn cyfarfod llawer o famau eraill sy'n wynebu sefyllfa debyg iawn.

"Maent yn aml yn helpu'r naill a'r llall - mae llawer o gymorth gan gymheiriaid, mae elfen gymdeithasol sy'n bwysig hefyd, ac mae hefyd yn fan lle gall mamau newydd ddod i ymarfer bwydo ar y fron pan fyddant ar grwydr. Mae hynny'n hynod bwysig wrth fagu hyder, a byddwn yn aml yn siarad am bethau fel ystumiau da ar gyfer bwydo a pha fath o ddillad sy'n gweithio orau o ran bwydo'n gyhoeddus.

"Rydw i wrth fy modd yn gweld merched yn dod yn ôl i'r grŵp ac yn magu hyder. Mae rhai mamau'n wynebu heriau wrth fwydo ar y fron, ond rydym yn awyddus i famau wybod bod cymorth cyfeillgar ar gael - a'n bod yn gallu eu helpu i fwydo eu babi yn y ffordd a fynnant."

 

Parc Caia: "Dylai pobl wybod nad oes angen iddynt guddio..."

 

Mae Apra Ames-Roberts a Dianne Hughes o The Happy Hedgehog Café a Delta Academy of Dance and Performing Arts yn credu bod croesawu a chefnogi mamau sy'n bwydo ar y fron yn rhan naturiol o'r cymorth maent yn ei gynnig i'r gymuned ehangach ym Mharc Caia.

"Ar unrhyw ddydd Sadwrn, gall cannoedd o blant alw heibio yma dros gyfnod o chwe awr," meddai Apra. "Ac mae llawer o’u rhieni'n dod â brodyr a chwiorydd iau gyda nhw mewn sedd car neu sling.

"Mae'n ymwneud â mamau'n gwybod nad oes neb yn mynd i'w barnu. Ni ddylai fod unrhyw broblem neu stigma o ran bwydo ar y fron yn gyhoeddus mwyach. Dylai pobl wybod nad oes angen iddynt guddio wrth fwydo neu wrth odro'r fron.

"Rydym ni'n falch iawn o'u croesawu. Rydw i'n gweld bod ein mamau sy'n bwydo ar y fron yn tueddu i gyfarfod ac eistedd gyda'i gilydd - rydw i'n hoffi eu gweld yn galw heibio, eistedd gyda ni a sgwrsio ymysg ei gilydd am bethau. Y rhan fwyaf o'r amser, ni all neb weld eu bod nhw'n bwydo ar y fron!"

🔵 "Fe wnaethon nhw wrando arnaf, gan wneud i fwydo ar y fron weithio i ni" – timau cymorth arbenigol yn helpu cannoedd o famau newydd a babanod newydd-anedig

 

Llanberis: "Mae mynd i rywle yr ydych yn gwybod ei fod yn gefnogol yn gwneud i chi deimlo'n fwy hyderus..."

 

Dywedodd perchennog Salon Sglein yn Llanberis, Sioned Cumberton, ei bod hi wedi cael ei hysbrydoli i ddod yn aelod o'r cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron oherwydd ei phrofiad ei hun fel mam.

"Rydw i'n gallu cofio pa mor anghyfforddus yr oeddwn i'n teimlo pan oeddwn i'n mynd allan a phan oedd angen bwydo fy mab," meddai. "Byddwn i'n gwneud yn siŵr fy mod i'n wynebu'r wal neu fod fy mam o’m hamgylch er mwyn fy nghuddio wrth fwydo.

"Fel mam, mae angen i chi fynd allan - mae'n helpu i wella eich hwyliau ac mae'ch atal rhag teimlo’n ynysig. Mae'n gwneud gwahaniaeth mawr os ydych yn gwybod eich bod chi'n mynd i rywle cefnogol, ac mae'n eich helpu i deimlo'n fwy hyderus."

 

Ein map ar-lein sy'n hwylus ei ddefnyddio

Mae'r map ar-lein o leoliadau sy'n Croesawu Bwydo ar y Fron yn cynnwys ystod eang o fusnesau, gan gynnwys ATS Euromaster yng ngorsaf betrol Maesgwyn ar Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam. Yn debyg i lawer o arweinwyr busnes ar draws gogledd Cymru, mae'r rheolwr, Phil Jones, eisoes wedi arddangos ein sticer Croesawu Bwydo ar y Fron â balchder.

“Mae’n rhaid croesawu unrhyw beth y gallwn ei wneud i wneud i fenywod sy’n bwydo ar y fron deimlo ychydig yn fwy cyfforddus,” meddai.

“Rydyn ni i gyd yn rhieni yma, ac rydyn ni i gyd wedi bod trwy'r mathau hyn o bethau. Felly mae’n beth hawdd i ni – rydym eisiau annog mamau i fod yn hapus i fwydo yma os oes angen.”

 

Dywedodd Jodie Phillips, Rheolwr Corfforaethol gyda datblygwr Dewis Data Cymru, fod y gwasanaeth yn falch o fod wedi gweithio gyda’r bwrdd iechyd i greu’r map o fusnesau sy'n Croesawu Bwydo ar y Fron, oherwydd mae helpu pobl i ddod o hyd i’r wybodaeth gywir am wasanaethau a chymorth yn allweddol i helpu pobl i gynnal eu lles a'i wella.

"Mae defnyddio cyfeiriadur Dewis Cymru i ddarparu rhestr gyfredol ac ar-lein o fusnesau a lleoliadau eraill yng ngogledd Cymru lle gallant deimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus wrth fwydo ar y fron wir yn rhywbeth i'w ddathlu,” meddai.

Gwarchodir yr hawl i fwydo ar y fron mewn mannau cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bwriad ein Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron yw cynnig mwy o gymorth a sicrwydd, a helpu mamau a babanod i barhau i fwydo ar y fron tra byddant ar grwydr.

Mae'r holl leoliadau sy'n cymryd rhan yn y cynllun wedi cofrestru ar gyfer ein polisi Croesawu Bwydo ar y Fron, sy'n annog sefydliadau a busnesau i helpu mamau sy'n bwydo ar y fron i deimlo'n gyfforddus a hyfforddi staff o ran gwella eu hymwybyddiaeth o fwydo ar y fron a'i fuddion.

 

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

🔵 Cewch y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gofrestru ar ein rhestr bostio.