Neidio i'r prif gynnwy

"Fe wnaethon nhw wrando arnaf, gan wneud i fwydo ar y fron weithio i ni" – timau cymorth arbenigol yn helpu cannoedd o famau newydd a babanod newydd-anedig

Awst 1, 2023

Mae mamau newydd a babanod newydd-anedig yn cael cynnig cymorth ychwanegol gyda bwydo ar y fron yn ystod eu dyddiau cyntaf gwerthfawr gyda'i gilydd fel rhan o brosiect peilot llwyddiannus.

Mae tîm arbenigol bwydo babanod Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cefnogi cannoedd o deuluoedd gyda chymorth dwys a chanllawiau ymarferol ar fwydo ar y fron.

Mae’r fenter wedi cefnogi mwy o famau a’u babanod ar draws Wrecsam a Sir y Fflint i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fwydo ar y fron yn hyderus.

Nawr, mae’r prosiect peilot wedi ymestyn i Ysbyty Glan Clwyd, lle mae'r canlyniadau cynnar wedi bod yn galonogol.

Mae Seren Young yn un o’r babanod sydd wedi elwa. Erbyn hyn, yn mynd o nerth i nerth, ganwyd Seren fach trwy doriad Cesaraidd brys, chwe wythnos yn fuan, a bron iddi gyrraedd y byd yn ffolennol. Arhosodd y ferch fach, yn pwyso 5 pwys 5 owns yn yr ysbyty am 15 diwrnod i dderbyn triniaeth ar gyfer clefyd melyn, cymorth bwydo ychwanegol a help i reoleiddio ei thymheredd.

Canmolodd Lisa Bithell, y fam o Sir y Fflint y tîm bwydo babanod am eu heffaith “anhygoel” yn ystod pythefnos cyntaf o fywyd ei merch.

“Roeddwn wedi bod yn trafod fy nghynllun geni gyda fy mydwraig, ac roeddwn wedi ystyried bwydo ar y fron, ond nid oedd yn rhywbeth roeddwn wir yn gwybod llawer amdano – ac yna'r diwrnod canlynol, dechreuodd y poenau esgor a bu’n rhaid i mi ruthro i'r ysbyty," meddai Lisa, sy'n 29 oed.

“Pan gyrhaeddodd Seren yn gynnar, meddyliais efallai na fyddwn yn cael y cyfle i fwydo ar y fron. Ar y dechrau, cafodd ychydig o drafferth wrth anadlu a chafodd ei chludo i’r Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU) – felly ni chawsom gysylltiad croen â chroen."

 

 

“Nid oedd wedi datblygu’r atgyrch sugno a bu ar diwb bwydo am gyfnod," meddai Lisa. "Doedd gen i ddim syniad sut i fwydo ar y fron ac roeddwn yn grediniol na fyddwn yn gallu.

“Ond roedd y tîm yn gefnogol ac yn amyneddgar iawn, ac yn hynod o hyblyg. Wnaethon nhw fy helpu gymaint – oni bai amdanyn nhw, dydw i ddim yn credu y byddwn yn bwydo ar y fron nawr. Rydych yn tybio ei fod yn rhywbeth a ddylai ddod yn naturiol, ond roedd yn waith caled ar y dechrau, ac roedd cymorth y tîm bwydo babanod yn hanfodol.

“Roedden nhw yno bob bore i fy nghefnogi, ac yn fy annog i ddal ati a'm cadw'n bositif pan roedd pethau'n anodd. Roedden nhw'n gwrando arnaf, gan wneud i fwydo ar y fron weithio i ni pan nad oedd Seren angen cymorth y tiwb bwydo.”

🔵 "Gellir ystyried bwydo ar y fron fel triniaeth" – uned newyddenedigol flaenllaw yn cefnogi mwy o famau i fwydo babanod a anwyd cyn amser

 

Cymorth pwrpasol

Dechreuodd y prosiect yn Wrecsam ddechrau 2021, ac mae'n cynnig cymorth pwrpasol ar gyfer bwydo ar y fron wedi’i ddarparu gan fydwraig llaetha arweiniol cymwys, a thri gweithiwr cymorth arbenigol bwydo babanod.

Mae mwy na 70% o famau a dderbyniodd gefnogaeth gan y tîm yn gadael yr ysbyty’n bwydo ar y fron. Mae cyfraddau bwydo ar y fron ar gyfartaledd tua 50% yng Ngogledd Cymru.

 

 

Dywedodd Ellie Morgan, gweithiwr cymorth bwydo babanod ac aelod tîm ei bod yn fraint cael gweithio gyda theuluoedd wrth iddyn nhw ddod i adnabod aelodau diweddaraf y teulu.  

“Y pethau pwysicaf rydym yn eu rhoi i’r mamau sy’n gweithio gyda ni yw amser a hyder – mae’r uned famolaeth yn brysur iawn, ac mae’r GIG yn brysur iawn. Ond, y ffordd rydym yn gallu helpu mamau yw trwy wrando arnyn nhw, a rhoi amser a'r wybodaeth gywir iddyn nhw i'w cefnogi," meddai.

“Rydym yn cael ambell fam yn cyrraedd sy’n teimlo bod dechrau bwydo ar y fron yn anodd, ond rydym yn gallu dangos iddi sut i fwydo ei baban. Rydym yn gwrando ar y teuluoedd a’u hanghenion, ac yna'n edrych ar ffyrdd o ran sut gallwn eu cefnogi.

"Ac mae llawer o famau’n profi’r eiliadau pur hynny. Mae rhai yn ei chael hi'n anodd, ond mae'n werth chweil gallu rhoi rhywfaint o gefnogaeth iddyn nhw a gweld pethau'n disgyn i’w lle – ac yna maen nhw'n credu, ie, dwi’n gallu gwneud hyn."

Mae gan fwydo ar yr y fron lu o fanteision iechyd a lles hirhoedlog i famau a'u babanod  – gan gynnwys amddiffyn rhag heintiau cyffredin a helpu i leihau'r risg o ddal rhai afiechydon difrifol.

Er bod llawer o ysbytai’n cynnig cymorth gyda bwydo ar y fron, Ysbyty Maelor Wrecsam oedd yr ysbyty cyntaf yng Nghymru i dreialu gwasanaeth tîm bwydo babanod a arweinir gan fydwragedd wedi'i hintegreiddio'n llawn yn yr adran famolaeth.

 

Ymrwymo i helpu mamau sy’n dymuno bwydo ar y fron

Dywedodd Sharon Breward, MBE, Cydlynydd Bwydo Babanod Betsi Cadwaladr fod yr arloesi wedi arwain at welliannau mawr yn ansawdd y gwasanaeth sydd ar gael i famau, babanod newydd-anedig a’u teuluoedd.

Mae'r tîm yn cael ei dreialu mewn ardaloedd sydd â lefelau is o fwydo ar y fron fel rhan o Gynllun Gweithredu Bwydo Babanod y Bwrdd Iechyd, ar ôl i waith ymchwil gyda mamau yng Ngogledd Cymru ddangos bod llawer eisiau rhagor o gefnogaeth.

“Rydym wedi ymrwymo i helpu mamau sy’n dymuno bwydo eu babanod ar y fron – ac rydym yn awyddus i wneud mwy i annog a chefnogi bwydo ar y fron ledled Gogledd Cymru," meddai Sharon.

“Mae hyn yn cynnwys rhoi mwy o gymorth i famau i ddysgu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fwydo ar y fron yn hyderus ac yn llwyddiannus pan mae’r babi wedi cyrraedd, a chynnig rhagor o gefnogaeth er mwyn iddynt barhau i fwydo ar y fron yn y gymuned.”

 

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

🔵 Cewch y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gofrestru ar ein rhestr bostio.