Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiadau ar gyfer gwobrau mawreddog i dîm enghreifftiol sydd yn brwydro yn erbyn achos mwyaf marwolaethau y gellir eu hatal mewn ysbytai

23.08.23

Mae tîm amlddisgyblaethol enghreifftiol o staff meddygol wedi'i enwebu ar gyfer dwy wobr sy'n cydnabod eu hymrwymiad i leihau'r achos mwyaf marwolaethau y gellir eu hatal mewn ysbytai.

Mae cynllun APPLE wedi'i greu i leihau nifer yr achosion thrombosis sydd yn digwydd yn yr ysbyty (HAT), ac mae wedi ei osod ar y rhestr fer yn y categori Diogelwch Cleifion gan yr Health Service Journal (HSJ).

Yn ogystal, dysgodd y tîm yn ddiweddar eu bod wedi'u henwebu ar gyfer gwobr Gwella Diogelwch Cleifion yng ngwobrau GIG Cymru.

Christine Wellburn, nyrs arbenigol thromboproffylacsis, sydd wedi bod yn arwain y prosiect. Dywedodd: “Mae'r enwebiadau hyn yn dangos pa mor galed y mae'r clinigwyr yn gweithio. Mae fy nhîm wedi arwain ar hyn ond heb gefnogaeth y clinigwyr ni fyddem wedi cael ein henwebu.

“Rydyn ni eisiau i hyn dynnu sylw at bwysigrwydd y gwaith yma a pha mor galed rydyn ni'n gweithio i amddiffyn ein cleifion.”

Bydd Swyddogion Amgylchedd Di-fwg cyfeillgar a thosturiol yn dod â chwa o awyr iach i ysbytai Gogledd Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Mae gwaith ei thîm yn canolbwyntio ar asesu, addysgu ac arsylwi cleifion ysbyty o gael eu derbyn i un o’n safleoedd ar draws Gogledd Cymru.

Mae'r prosiect hefyd yn addysgu staff clinigol ym mhob disgyblaeth am beryglon thrombo-emboleddau gwythiennol (VTE), sy'n cynnwys thrombosis gwythiennau dwfn (DVT) ac emboleddau ysgyfeiniol (PE).

Mae'r rhain yn cyfeirio at glotiau gwaed sy'n ffurfio mewn gwythïen ac yn rhwystro llif gwaed yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Maen nhw’n effeithio ar ddegau o filoedd o gleifion bob blwyddyn yn y DU – ac yn lladd mwy o bobol na sepsis.

Mae VTE a gafwyd yn yr ysbyty yn un sy’n digwydd ar ôl cael eich derbyn i’r ysbyty neu o fewn 90 diwrnod o’ch rhyddhau. Y clotiau gwaed hyn yw achos mwyaf marwolaethau y gellir eu hatal mewn ysbyty.

Mae hyd at 60% o achosion VTE sy'n cael diagnosis ledled y byd yn cael eu cofnodi fel rhai a gafwyd yn yr ysbyty. Ffocws Christine a’i chydweithwyr amlddisgyblaethol yw atal cymaint o’r rhain â phosibl.

“Mae rhai cleifion yn dod i mewn i’r ysbyty gydag arwyddion o geulad gwaed ac rydym yn eu trin o’u derbyn,” dywedodd Christine, sydd wedi’i lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dathlu dysgwyr prosiect SEARCH wrth i garfan newydd YGC agor - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

“Mae’r achosion sy’n digwydd yn yr ysbyty naill ai’n HAT (thrombosis a gafwyd yn yr ysbyty) na ellir ei atal neu’n HAT y gellir ei atal.  Mae hynny’n golygu y gallem fod wedi cyfrannu at y thrombosis hwnnw.

“Addysgu ac adolygu er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn stopio thrombosis y gellir ei atal rhag digwydd yw hanfod ein gwaith.”

Ers mabwysiadu egwyddorion APPLE, mae achosion thrombosis a gafwyd yn yr ysbyty wedi’u hanneru ac ni chafwyd yr un achos eleni.

Rhoddwyd teyrnged gan Christine i’w chydweithwyr Mr Amir Hanna, arweinydd clinigol ar gyfer thromboproffylacsis yng Nghymuned Iechyd Integredig y Canol, Haimon Chaudrhy, fferyllydd arweiniol Cymuned Iechyd Integredig y Canol, a Dr Mick Kumwenda MBE, cyfarwyddwr clinigol meddygaeth Ysbyty Glan Clwyd, am eu cefnogaeth i’r fenter.

Oherwydd eu canlyniadau cadarnhaol, gwnaeth y tîm gais am statws Esiamplwyr Cenedlaethol VT ar ran y bwrdd iechyd cyfan, sef achrediad a ddyfernir gan King’s College, Llundain. Cafwyd cadarnhad eu bod wedi derbyn y statws ym mis Mai eleni.

Dim ond un bwrdd iechyd arall yng Nghymru sydd wedi ennill y statws yma a BIPBC yw’r 33ain yn y DU i ennill yr anrhydedd yma.

Bydd Christine a’i chydweithwyr yn dod i wybod a ydynt wedi ennill gwobr GIG Cymru ar 26 Hydref, yng Nghaerdydd.

Ond bydd yn rhaid iddynt aros ychydig yn hirach cyn dod i wybod a ydynt wedi ennill gwobr HSJ. Cynhelir y seremoni honno ar 16 Tachwedd, yn Llundain.

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)