Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Swyddogion Amgylchedd Di-fwg cyfeillgar a thosturiol yn dod â chwa o awyr iach i ysbytai Gogledd Cymru

Awst 23, 2023

Mae Swyddogion Amgylchedd Di-fwg yn cael eu cyflwyno mewn ysbytai yng Ngogledd Cymru i helpu cleifion, staff ac ymwelwyr i gadw safleoedd byrddau iechyd yn rhydd o fwg tybaco niweidiol.

Bydd yr aelodau staff yn helpu i leihau ysmygu ar dir ysbytai trwy siarad â phobl sy'n ysmygu a'u hatgoffa am ein rheolau di-fwg.

Byddant hefyd yn gallu ateb cwestiynau gan ymwelwyr, a chyfeirio pobl at y cymorth am ddim sydd ar gael i roi’r gorau i ysmygu gan Helpa Fi i Stopio.

Bydd aelod cyntaf y tîm newydd yn dechrau gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd yr wythnos hon, a disgwylir i eraill ddilyn yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd yn ddiweddarach eleni.

Mae ysmygu mewn ysbytai wedi bod yn anghyfreithlon ers mis Mawrth 2021, yn dilyn cyflwyno deddfau newydd gan Lywodraeth Cymru. Gallai unrhyw un sydd yn ysmygu mewn unrhyw ysbyty yng Nghymru gael dirwy o £100.

Mae polisi’r bwrdd iechyd hefyd yn gwahardd defnyddio fêps neu e-sigarétau yn unrhyw le ar ein safleoedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Betsi Cadwaladr, Teresa Owen: “Rydym am i’n hysbytai fod yn llefydd iach, ac yn llefydd sy’n hybu ffyrdd iach o fyw – i’n cleifion, i’n staff ac i’r gymuned ehangach.

 “Ysmygu yw prif achos marwolaethau cynnar a salwch y gellir ei osgoi yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i leihau'r niwed i iechyd a achosir gan ysmygu, gan gynnwys y niwed o ddod i gysylltiad â mwg ail-law.

 

“Rydyn ni’n gwybod y gall llawer o bobl sy’n ymweld â’n hysbytai wynebu amgylchiadau anodd neu heriol, felly rydyn ni’n gofyn i’n Swyddogion Amgylchedd Di-fwg newydd fynd at unrhyw un sy’n ysmygu mewn ffordd gyfeillgar a thosturiol – er mwyn eu helpu i gadw at y rheolau dim ysmygu ar ein safleoedd, ac i’w hannog i ofyn am fwy o gymorth i roi'r gorau i ysmygu os dymunant. Mae ysmygu yn gaethiwus, ond mae llawer o help ar gael i bobl sydd am roi'r gorau iddi.

“Rwy’n gobeithio y bydd yr aelodau newydd hyn o’n tîm yn gallu cefnogi cleifion ac ymwelwyr wrth leihau mwg tybaco yn ein hysbytai, a gwneud cyfraniad at fynd i’r afael â chlefydau y gellir eu hatal yma yng Ngogledd Cymru.”

Er nad oes gan y Swyddogion Amgylchedd Di-fwg yr hawl i roi dirwyon, byddant yn mynd at bobl sydd yn ysmygu ac yn gofyn iddynt stopio neu symud oddi ar dir yr ysbyty.

Byddant hefyd yn gweithio'n agos gyda thimau’r awdurdodau lleol - sydd â'r hawl i roi cosbau ariannol, a gallant hwy ymweld ag ysbytai i weithredu'r gyfraith.

🔵 Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnig cymorth un-i-un am ddim gan arbenigwr ar roi'r gorau i ysmygu naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, yn ogystal â meddyginiaethau rhoi'r gorau i ysmygu am ddim gwerth hyd at £250.
 

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

🔵 Cewch y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gofrestru ar ein rhestr bostio.