Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu dysgwyr prosiect SEARCH wrth i garfan newydd YGC agor

Yn ddiweddar, cafodd interniaid Prosiect SEARCH gyfle i ddathlu eu llwyddiant gyda’u teuluoedd mewn seremoni galonogol a gynhaliwyd yng Ngholeg Llandrillo. Roedd y seremoni yn nodi cyflawniadau personol yr interniaid a’r cyfleoedd newydd sydd ar gael i rai ag anawsterau dysgu neu awtistiaeth, wrth iddyn nhw adael y byd addysg.

Mae Coby Barrows, Dylan Hardwick, Angharad Jones, Sophie Skinner, Adam Whiteley a Rachel Williams wedi cwblhau interniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan. Mae pob un ohonynt hefyd naill ai wedi sicrhau cyflogaeth, wedi cychwyn ar gynlluniau prentisiaeth a rennir â chymorth, neu wedi cofleidio’r Rhaglen Camu i Mewn i Waith, gan brofi hyblygrwydd a photensial menter Prosiect SEARCH.

Cyflwynwyd tystysgrifau a thlysau gwydr i'r interniaid ar gampws Llandrillo yn Rhos. Mae Prosiect SEARCH yn interniaeth flwyddyn o hyd sydd wedi'i chynllunio'n arbennig ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu neu awtistiaeth sy'n gadael addysg. Mae wedi bod yn allweddol wrth feithrin y sgiliau angenrheidiol ar gyfer trosglwyddo'n llwyddiannus i fyd cyflogaeth.

Mae Prosiect SEARCH yn bartneriaeth rhwng Coleg Llandrillo, BIPBC, Agoriad sy’n asiantaeth cyflogaeth â chymorth, a Phrosiect SEARCH ei hun. Mae’r profiad gwaith yn Ysbyty Glan Clwyd yn rhoi cipolwg ar amgylchedd mewn ysbyty, tra bod adran Sgiliau Byw’n Annibynnol Coleg Llandrillo yn gyfrifol am yr agwedd addysgol a lles yr interniaid. Mae Agoriad yn cynnig arbenigedd hyfforddiant mewn swydd, gan gyflwyno'r sgiliau sy'n benodol i wahanol rolau a chynnig cefnogaeth barhaus.

Mae'r fenter yn cael ei chanmol gan yr interniaid eu hunain. Maent wedi rhannu eu profiadau yn y fideo YouTube hwn - https://youtu.be/DO7x26Xx6Lw

 

 

 

Dywedodd Coby, a fu'n gweithio yn adran arlwyo Ysbyty Glan Clwyd: "Rydw i wedi cyflawni cymaint drwy ddod yma. Rydw i wedi cael cynnig contract, wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd a chyfarfod â nifer o bobl newydd."

Dywedodd Angharad, sy'n gweithio tuag at fod yn weithiwr cymorth gofal iechyd: "Rydw i wedi cyflawni cymaint. Rydw i wedi dod yn fwy annibynnol ac wedi magu hyder drwy weithio mewn tîm. Yr hyn rydw i'n ei fwynhau fwyaf am y rôl hon ydy bod gen i deulu gwaith sy'n fy nghefnogi i gyda phopeth. Mae rhywbeth newydd yn digwydd bob dydd wrth ofalu am gleifion."

Dywedodd Sophie: "Rydw i wedi mwynhau bod yn rhan o'r tîm domestig. Rydw i wedi cyrraedd y pwynt hwn fy hun, yn annibynnol. Rydw i wedi gweithio'n galed ac mae fy hyder wedi datblygu."

Roedd Rachel hefyd yn gweithio yn y tîm domestig. Dywedodd: "Rydw i wedi llwyddo gweithio'n annibynnol a gweithio mewn tîm. Rydw i wedi magu llawer o hyder a dysgu sut i gael ffydd yn fy hun. Rydw i wedi mwynhau cyfarfod â phobl newydd a gweithio mewn amgylchedd mawr."

Dywedodd Adam a fu'n gweithio fel porthor: "Cyn dod yma, doedd gen i ddim hyder na chymhelliant. Ers dod yma, mae fy hyder wedi cynyddu, ac mae'n cynyddu bob dydd."

"Mae'n ymarfer corff da. Rydw i'n cerdded llawer oherwydd fy ngwaith fel porthor, ac rydw i'n codi a chario hefyd."

Gweithiodd Dylan yn yr adran derbyn a dosbarthu. Dywedodd: “Y peth rydw i wedi'i fwynhau am Brosiect SEARCH ydy gweithio gyda fy nghydweithwyr."

Agorwyd y seremoni wobrwyo gan Sam McIlvogue, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Llandrillo, a chafwyd anerchiad gan Arthur Beechy, Prif Weithredwr Agoriad a oedd yn canmol cyflawniadau'r interniaid.

Cyflwynwyd y tystysgrifau a'r tlysau gan Mandy Hughes, Rheolwr Moderneiddio'r Gweithlu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

Dywedodd Jane Myatt, Rheolwr Ardal Rhaglen Astudiaethau Cyn-alwedigaethol a Sgiliau Byw'n Annibynnol Coleg Llandrillo:  “Mae Prosiect SEARCH wedi rhoi cyfle gwych i’r chwe unigolyn ifanc, gan roi cyfleoedd cyflogaeth â thâl yn y bwrdd iechyd, a’r tu hwnt iddo.

"Mae'r interniaid i gyd wedi magu hyder ac wedi dod yn bobl ifanc cyfrifol. Maent yn gweithio mewn amgylcheddau prysur iawn gyda chefnogaeth barhaus yn ei lle i gefnogi unrhyw anghenion dysgu ychwanegol."

Dywedodd Jason Brannan, Dirprwy Gyfarwyddwr Pobl yn BIPBC:  "Mae'n bleser gen i ddathlu gyda'r interniaid a'u teuluoedd a chydnabod eu llwyddiannau anhygoel.

"Rydym ni eisiau bod yn sefydliad sy'n cefnogi ein cymunedau, ac mae Prosiect SEARCH wedi rhoi cyfle i'r interniaid feithrin eu sgiliau ac ennill gwybodaeth a fydd yn eu paratoi ar gyfer y byd gwaith.

"Mae nifer o'r interniaid bellach yn cael eu cyflogi gan y Bwrdd Iechyd ac rydw i'n edrych ymlaen at eu gweld yn parhau i ddatblygu."

Dywedodd Arthur Beechy, Prif Weithredwr Agoriad:  "Mae Agoriad yn falch iawn o fod yn rhan o’r interniaethau a gefnogir gan GLLM P4 Prosiect SEARCH ac i weld llwyddiant yr interniaid wrth iddynt ddod o hyd i waith.

"Hoffem ddiolch i Jane, Gwen a Rhian o'r Coleg ac i Mandy a Tracey o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am eu cefnogaeth ac am hwyluso profiad y grŵp a'u galluogi i lwyddo." Mae effaith Prosiect SEARCH yn eang. Yn genedlaethol, mae cyfraddau diweithdra ar gyfer oedolion ag anableddau/awtistiaeth yn codi i tua 90 y cant.

Mae Prosiect SEARCH yn darparu cymorth i ddatblygu sgiliau ac ymddygiadau sy'n cynorthwyo oedolion ifanc ag anawsterau dysgu neu awtistiaeth i ddod o hyd i waith ystyrlon sy'n talu. Mae hyn yn dylanwadu ar eu llwybrau gyrfa yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a chynhwysiant cymdeithasol hirdymor.

Wrth i’r rhaglen barhau i amlygu llwybrau a thrawsnewid bywydau, mae straeon llwyddiant Coby, Dylan, Angharad, Sophie, Adam, a Rachel yn dyst i rym ymroddiad, cydweithio, a’r gred ym mhotensial pob unigolyn. Trwy Brosiect SEARCH, mae rhwystrau'n cael eu goresgyn a drysau'n agor gan sicrhau nad oes unrhyw dalent yn mynd heb ei chyffwrdd, a bod pob taith yn cael ei dathlu.