Ionawr 13, 2023
Bydd oedolion cymwys a phlant yn gallu cael brechiad rhag y ffliw yn rhad ac am ddim yn un o ganolfannau brechu torfol y Bwrdd Iechyd o ddydd Llun ymlaen.
Mae'r ffliw yn cylchredeg yng Ngogledd Cymru, ac mae cannoedd o gleifion wedi gorfod mynd i'r ysbyty dros yr wythnosau diwethaf.
Mae dros 200,000 o bobl eisoes wedi cryfhau eu hamddiffyniad trwy gael eu brechu rhag y ffliw mewn meddygfa neu fferyllfa gymunedol y gaeaf hwn.
O ddydd Llun Ionawr 16 ymlaen, bydd pawb sy'n gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw yn gallu mynd i mewn i glinig brechu heb apwyntiad. Bydd llawer o feddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol yn dal i gynnig y brechlyn hefyd.
Mae brechiadau rhag y ffliw trwy gyfrwng chwistrell ddi-boen a roddir yn y trwyn ar gael yn rhad ac am ddim i bob plentyn dwy a thair oed (oedran ar 31 Awst 2022) ac i bob plentyn ysgol o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11.
Mae oedolion sy'n 50 mlwydd oed neu'n hŷn, ynghyd a grwpiau sy'n wynebu risgiau sylweddol gan gynnwys merched beichiog, gweithwyr iechyd, gofalwyr a phobl sydd â chyflyrau iechyd isorweddol hefyd yn gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw.
Bydd canolfannau brechu yn cynnal clinigau galw heibio penodol i blant ar ddyddiadau a drefnir ymlaen llaw. Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd, dyddiadau ac amseroedd clinigau, a sut gallwch chi gael eich brechu rhag y ffliw ar gael yma. Diweddarir manylion dyddiadau newydd yn rheolaidd.
Mae nifer yr achosion o'r ffliw yn y gymuned yn debygol o fod yn uchel am nifer o wythnosau.
Y ffordd orau i'ch amddiffyn eich hun rhag y ffliw yw cael y brechlyn rhag y ffliw yn flynyddol. Gall y brechlyn eich atal rhag dal y ffliw, lleihau'r posibilrwydd o'i drosglwyddo i bobl eraill, a lleddfu difrifoldeb y symptomau os gwnewch chi ddal y firws.
Mae'n neilltuol o bwysig sicrhau bod plant yn cynyddu eu hamddiffyniad trwy gael brechlyn rhag y ffliw a roddir trwy gyfrwng chwistrell ddi-boen yn y trwyn. Gall y ffliw wneud i blant fod yn wael iawn, a chynyddu eu posibilrwydd o ddod yn ddifrifol wael â heintiau eilaidd megis Strep A. Bydd plant yn cymysgu â llawer o blant eraill mewn ysgolion a meithrinfeydd, felly gallant hefyd drosglwyddo'r firws a'i gludo gartref a heintio aelodau mwy bregus y teulu.
Mae pob plentyn o oedran ysgol wedi cael cynnig y brechlyn rhag y ffliw mewn cliniau yn eu hysgol yn ystod tymor hydref, ond nid yw'n rhy hwyr i ddal i fyny.
Dywedodd Leigh Pusey, cydlynydd imiwneiddio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Os ydych chi mewn grŵp blaenoriaethol, mae cael eich brechu rhag y ffliw yn allweddol, ac mae'n hollbwysig amddiffyn ein plant hefyd.
“Cofiwch eich helpu chi eich hun a helpu'ch anwyliaid i gadw'n iach trwy gofio manteisio ar y cyfle i gael brechiad rhag y ffliw - yn eich meddygfa, yn eich fferyllfa gymunedol leol, neu yn un o ganolfannau brechu'r Bwrdd Iechyd.”
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Cofrestrwch (es-mail.co.uk)