Neidio i'r prif gynnwy

"Ffoniwyd fy merched ddwywaith oherwydd credai'r meddygon na fuaswn yn goroesi" – Apêl ynghylch brechlyn y ffliw gan un o gyn-aelodau'r RAF o Ogledd Cymru ar ôl salwch wnaeth newid ei fywyd

Hydref 12, 2022

Mae cyn-aelod o'r RAF a fu bron a marw ar ôl dal y ffliw wedi annog eraill i amddiffyn eu hunain trwy gael eu brechu am ddim y gaeaf hwn.

Cafodd Mark Beech ei ruthro i'r ysbyty ar ôl cael trafferth anadlu - a deffrodd yn yr uned gofal dwys fwy na phythefnos yn ddiweddarach.

Fe wnaeth meddygon ffonio ei ferched ddwywaith i ofyn iddynt ddod ato oherwydd roeddent yn ofni na fuasai'n gwella.

“Roeddwn i'n ffodus iawn,” meddai Mark. “Roedd yn brofiad a wnaeth newid fy mywyd. Dydw i ddim yn meddwl y gwna'i fyth gael adferiad llwyr.

“Yn ôl y meddyg ymgynghorol, pe na bawn i wedi bod mor gryf, a phe na bai gen i ewyllys mor haearnaidd, ni fuaswn i yma heddiw.”

Roedd Mark, sy'n byw yn y Rhyl, wedi dal straen H1N1 y ffliw – a dywed bod y salwch wedi “difodi” ei fywyd.

“Rwy'n ffodus iawn o fod yma o hyd, oherwydd nid oeddwn i wedi sylw pa mor ddifrifol oedd y cyflwr,” meddai Mark.

“Collais fis o fy mywyd yn gorwedd yn yr ysbyty, a chollais fy ffordd o fyw ar ôl gadael yr ysbyty. Dyna'r ffordd symlaf o gyfleu'r profiad.

“Roeddwn i'n arfer gallu mynd i gerdded ar y traeth gyda fy merch a'i chi, neu fynd i fyny i Ben y Gogarth yn Llandudno neu gerdded ym Metws y Coed.

“Ond mae'r cyfan wedi newid erbyn hyn. Ni allaf gerdded fwy na pum munud neu ddeg heb orfod chwilio am le i eistedd. Bydd gwneud unrhyw beth yn gwneud i mi golli fy ngwynt, a byddaf yn teimlo'n flinedig iawn.

“Os byddaf yn mynd i'r archfarchnad, bydd yn rhaid i mi bwyso ar droli. Bydd arnaf angen tacsi hyd yn oed i fynd i leoedd agos. Nid wyf wedi cerdded o amgylch canol y dref ers tro byd - buasai'n rhaid i mi stopio’n ddiddiwedd.”

Gwasanaethodd Mark ledled y byd fel aelod o Gatrawd y Llu Arfog Brenhinol rhwng 1973 a 1997.

Ar ôl gadael y Llu Arfog Brenhinol, fe wnaeth y dyn 65 mlwydd oed reoli nifer o fusnesau, cyn symud i Ogledd Cymru a chael swydd yn cynghori pobl ynghylch budd-daliadau iechyd. Erbyn hyn, mae'n gwirfoddoli i elusen sy'n cynorthwyo cyn-aelodau o'r lluoedd arfog.

 

Cafodd ei ruthro i Ysbyty Glan Clwyd mewn ambiwlans ychydig ddiwrnodau wedi'r Nadolig yn 2018, ond ni all gofio cyrraedd yno. Dros bythefnos yn ddiweddarach, ail-ddeffrodd mewn gwely yn yr uned gofal dwys.

Pan ddeffrodd Mark, roedd wedi'i ynysu, ac o'i gwmpas, roedd offer achub bywyd a staff nyrsio a meddygol yn gwisgo masgiau a gynnau. Roedd wedi cael traceotomi i helpu i gynnal ei anadlu, felly ni allai siarad. Treuliodd Mark bythefnos arall yn adfer yn yr ysbyty a bellach, bydd yn cael apwyntiadau yn yr uned cleifion allanol i drin cyflyrau cysylltiedig a chael gwasanaethau adsefydlu.

Dywedodd y buasai'n crefu ar unrhyw un sy'n gymwys i gael brechlyn y ffliw i amddiffyn eu hunain, eu teulu a phobl fregus yn eu cymuned trwy dderbyn y cynnig.

“Buaswn i wedi gallu cael brechlyn y ffliw, ond penderfynais beidio oherwydd nid oeddwn i'n credu bod hynny'n ofynnol,” dywedodd Mark.  “Erbyn hyn, buaswn yn dweud wrth unrhyw un - os na chewch chi eich brechu, gallech farw, mae hi mor syml â hynny.

“Mae unrhyw beth a wnaiff atal pobl rhag dal y ffliw yn syniad da.

“Rwy'n gwybod hefyd y gwnaiff helpu i leihau'r pwysau ar y GIG ac ar staff y GIG hefyd. Ond yn anad dim, fe wnaiff hyn eich helpu i ofalu amdanoch chi eich hun ac osgoi'r ffliw.”

Mae arbenigwyr ar iechyd y cyhoedd eisoes wedi rhybuddio y gallai Cymru fod yn wynebu tymor ffliw llym am y tro cyntaf ers cychwyn y pandemig, ac mae COVID-19 yn dal i gylchredeg yn y gymuned.

"Ewch i gael eich brechiad" – meddyg gofal critigol yn gofyn i bobl Gogledd Cymru amddiffyn eu hunain rhag y ffliw

Mae brechlynnau ffliw a brechlynnau atgyfnerthu COVID-19 ar gael i bob oedolyn sy'n 50 mlwydd oed neu'n hŷn, ynghyd â grwpiau blaenoriaethol sy'n wynebu risg uchel, gan gynnwys gweithwyr iechyd, gofalwyr a phobl sydd â chyflyrau iechyd isorweddol.

Bydd pob plentyn o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11 yn cael cynnig brechlyn ffliw a roddir trwy chwistrell drwynol ddi-boen yn yr ysgol. Bydd rhieni yn cael rhagor o wybodaeth oddi wrth ysgol eu plentyn a dylent gofio dychwelyd eu ffurflen ganiatâd. 

Bydd plant sydd rhwng dwy a thair blwydd oed (ar 31 Awst 2022) hefyd yn cael gwahoddiad i gael brechlyn trwy chwistrell drwynol yn eu meddygfa. 

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch sut i gael eich brechlyn ffliw a brechlyn atgyfnerthu COVID-19 yr hydref.

Dywedodd Leigh Pusey, cydlynydd imiwneiddio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. “Os ydych chi'n perthyn i grŵp blaenoriaethol, mae'n hanfodol i chi gael pecyn ffliw a'r brechlyn atgyfnerthu COVID-19 a gynigir yn ystod yr hydref.

“Helpwch i'ch cadw'ch hun yn iach trwy gofio manteisio ar y cyfle hwn.

“Mae amddiffyn plant rhag y ffliw yn neilltuol o bwysig, a bydd cael brechlyn trwy chwistrell drwynol ddi-boen yn helpu i amddiffyn plant yng Ngogledd Cymru rhag salwch difrifol y gaeaf hwn.

“Bydd hefyd yn helpu i atal plant – sy'n cymysgu â chymaint o blant eraill a phobl yn yr ysgol a'r feithrinfa – rhag trosglwyddo firws y ffliw i aelodau eu teulu a phobl fwy bregus yn y gymuned.”