Neidio i'r prif gynnwy

"Ewch i gael eich brechiad" – meddyg gofal critigol yn gofyn i bobl Gogledd Cymru amddiffyn eu hunain rhag y ffliw

Medi 27, 2022

Mae meddyg gofal critigol blaenllaw wedi annog pobl yng Ngogledd Cymru i gael eu brechlyn ffliw'r gaeaf hwn.

Diolchodd Dr Andy Campbell o Ysbyty Maelor Wrecsam i’r cyhoedd am eu cefnogaeth yn ystod y pandemig COVID-19 - ond dywedodd ei fod unwaith eto’n gofyn i bobl amddiffyn eu hunain rhag salwch difrifol.

Gall firws y ffliw fod yn angheuol ac mae'n arwain at ddwsinau o dderbyniadau i unedau gofal critigol ar draws Gogledd Cymru bob blwyddyn.

Dywedodd Dr Campbell y byddai brechu yn helpu'r cyhoedd i gadw'n iach a lleddfu'r pwysau ar wasanaethau lleol y GIG. 

“Rwy’n gofyn, wrth i aeaf arall agosáu, eich bod chi’n gwneud eich gorau glas i baratoi eich hun,” meddai.

“Mae ffliw yn dal i fod yn broblem fawr mewn ysbytai, a bydd eto’r gaeaf hwn. Felly ewch i gael eich brechiad.

“Mae’n mynd i helpu cymaint i leddfu'r pwysau oddi ar y GIG, a bydd yn eich helpu i gadw’n iach a chadw’n heini.”

Daw’r cais ynghanol rhybuddion y gallai Cymru wynebu tymor ffliw difrifol am y tro cyntaf ers pandemig COVID-19. Mae codi cyfyngiadau COVID-19 yn golygu bod mwy o firysau'n dychwelyd wrth i ni gymysgu mwy ac wrth i'n bywydau ddychwelyd i normal.

Dywed arbenigwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru fod achosion o'r ffliw eisoes yn cael eu canfod yng Nghymru. Credir y gallai firws y ffliw fod mor eang a difrifol â 2017, pan gafodd 16,500 o bobl ddiagnosis gan eu meddyg teulu a 2,500 o bobl yn yr ysbyty ledled Cymru.

Yr haf hwn, tarodd tymor ffliw Awstralia yn gynharach nag arfer gyda'r lefelau achosion uchaf mewn pum mlynedd.

Mae brechlynnau ffliw am ddim i grwpiau blaenoriaeth ar gael gan bractisau meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol, tra bod pobl sy’n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu COVID-19 yr hydref bellach yn cael eu gwahodd i gael eu brechiad yn un o ganolfannau brechu torfol y bwrdd iechyd.

Mae brechu yn helpu i atal pobl sy’n agored i niwed rhag mynd yn ddifrifol wael, yn arafu lledaeniad y firysau yn ein cymunedau, ac yn amddiffyn y GIG. Gyda’r GIG yn wynebu pwysau gaeafol difrifol a COVID-19 yn parhau, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl sy’n gymwys i gael y brechlynnau yn manteisio ar y cyfle'r gaeaf hwn. 

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydym yn annog pawb i gael eu brechiad y gaeaf hwn, pan fydd ffliw a COVID yn eu hanterth - i amddiffyn eu hunain, y rhai o’u cwmpas a’r GIG yn ystod cyfnod a fydd yn gyfnod prysur i ofal iechyd yng Nghymru.”

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch genedlaethol i annog pobl sy’n gymwys i gael brechlynnau ffliw a COVID-19 i atgyfnerthu eu hamddiffyniad rhag salwch difrifol y gaeaf hwn.

Mae brechu yn arbennig o bwysig i'r rhai sy'n hŷn, yn feichiog, neu'n fwy agored i niwed oherwydd cyflyrau iechyd sylfaenol. Dylai gweithwyr gofal iechyd a gweithwyr ar y rheng flaen hefyd fanteisio ar y brechlynnau i helpu i amddiffyn eu cleifion.

Bydd plant rhwng dwy ac 16 mlwydd oed yn cael cynnig brechlyn ffliw sy'n chwistrell ddi-boen drwy'r trwyn. Bydd amddiffyn plant rhag y ffliw yn helpu i’w hatal rhag bod yn ddifrifol wael, ac yn amddiffyn aelodau hŷn a mwy agored i niwed o’u teuluoedd a’r gymuned rhag y firws.

Bydd pob plentyn ysgol o ddosbarth derbyn i Flwyddyn 11 yn cael cynnig y brechlyn yn yr ysgol, tra gall plant dwy a thair blwydd oed ei gael yn eu meddygfa.

Er mwyn helpu i atal y ffliw, COVID-19 a firysau eraill rhag lledu, cofiwch Ei Ddal, Ei Daflu, Ei Ddifa - peswch neu disian i hances bob amser, taflwch yr hances ar ôl ei defnyddio, ac yna golchwch eich dwylo neu defnyddiwch hylif dad-heintio dwylo i ddifa unrhyw firysau.

Er mwyn helpu i gadw Cymru'n ddiogel, mae Llywodraeth Cymru yn argymell:

  • gwisgo mwgwd mewn mannau dan do gorlawn a lleoliadau gofal iechyd
  • cyfarfod yn yr awyr agored yn hytrach na dan do lle bo modd
  • aros gartref ac osgoi cyswllt ag eraill os oes gennych symptomau

Mwy o wybodaeth am sut i gael brechlyn y ffliw a brechlynnau atgyfnerthu COVID-19 yr Hydref hwn.