Neidio i'r prif gynnwy

Mae ein hysbytai yn ddi-fwg

I ddiogelu ein cleifion, ein staff a'n hymwelwyr rhag effeithiau niweidiol ysmygu, mae safleoedd ysbytai yn ddi-fwg. 

Peidiwch ag ysmygu yn ein hysbytai, yn cynnwys holl rannau tiroedd yr ysbytai, yn eu meysydd parcio ac mewn cerbydau.

Ysmygu yw prif achos salwch y gellir ei osgoi a marwolaethau cynnar yng Nghymru. Mae ysbytai yn un o'r mannau cyhoeddus niferus y mae'r gyfraith bellach yn mynnu eu bod yn hollol ddi-fwg. Bydd y mesur hwn yn diogelu iechyd a lles pawb sy'n defnyddio ein hysbytai.

Rydym yn ymrwymo i leihau'r niwed i iechyd a achosir gan ysmygu, yn cynnwys niwed yn sgil dod i gysylltiad â mwg ail-law.

Yn unol â chyfreithiau newydd a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru, gallai unrhyw un a gaiff ei ddal yn ysmygu yn safleoedd ein hysbytai – tu mewn neu allan  gael dirwy o £100.

 

Os byddwch chi'n dod i apwyntiad mewn adran cleifion allanol yn ein ysbytai

Peidiwch ag ysmygu yn unrhyw le yn safleoedd ein hysbytai, naill ai y tu mewn neu'r tu allan. Mae ein polisi yn golygu na chaniateir i gleifion a staff ysmygu sigaréts na defnyddio e-sigaréts.
 

Os byddwch chi'n mynd i ysbyty fel claf mewnol

Peidiwch ag ysmygu yn unrhyw le yn safleoedd ein hysbytai, naill ai y tu mewn neu'r tu allan. Bydd ein staff nyrsio a'n staff sy'n arbenigo ym maes rhoi'r gorau i ysmygu yn eich helpu i fod yn ddi-fwg yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty.

Pan gewch eich derbyn i'r ysbyty, gofynnir i chi a ydych chi'n ysmygwr a chynigir triniaethau disodli nicotin am ddim i chi, er enghraifft, patsys a losennau. Hefyd, cynigir cefnogaeth bersonol i chi gan ymgynghorydd Helpa Fi i Stopio fel rhan o'n cynllun Helpa Fi i Stopio yn yr Ysbyty.

Mae cael eich derbyn i ysbyty yn gyfle da i roi'r gorau i ysmygu yn barhaol. Gallwch barhau i gael cymorth a therapïau disodli nicotin am ddim gan Helpa Fi i Stopio ar ôl i chi gael eich rhyddhau. Rydym yn annog pob claf i fanteisio ar y cyfle hwn.
 

Os ydych yn glaf yn ein hunedau iechyd meddwl

Daeth holl unedau iechyd meddwl Betsi Cadwaladr yn daeth yn ddi-fwg fis Medi 2022. Mae rhagor o fanylion am gymorth i gleifion yn ein hunedau iechyd meddwl ar gael yma.

 

Cael cymorth wedi'i deilwra yn rhad ac am ddim i'ch helpu i roi'r gorau heddiw

Gallwch gael cymorth am ddim i'ch helpu i roi'r gorau i ysmygu gan Helpa Fi i Stopio unrhyw bryd.

Bydd ein cynghorwyr cyfeillgar yn rhoi cefnogaeth wedi'i theilwra i chi i'ch cynorthwyo i roi'r gorau i ysmygu mewn ffordd sy'n llwyddo i chi. Gallwn hefyd gynnig therapïau disodli nicotin, gan gynnwys patsys, gwm, chwistrelliadau a losennau, yn rhad ac am ddim, i'ch helpu i oresgyn yr ysfa.