Neidio i'r prif gynnwy

Mae ein hunedau iechyd meddwl ar fin bod yn rhai di-fwg

Er mwyn amddiffyn iechyd a lles ein cleifion, staff ac ymwelwyr, bydd ein holl unedau iechyd meddwl yn mynd yn gwbl ddi-fwg o 1 Medi 2022 ymlaen. Mae hyn yn cynnwys yr holl unedau preswyl, wardiau, adeiladau, tiroedd a cherbydau ar ein safleoedd.

 

Pam ein bod ni'n mynd yn ddi-fwg

Ysmygu yw prif achos salwch y gellir ei osgoi a marwolaethau cynnar yng Nghymru.

Mae pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn llawer mwy tebygol o fod yn ysmygwyr. Gall ysmygu gyfrannu at ddifrifoldeb cyflyrau iechyd meddwl, ac mae’n un o’r prif achosion o ostyngiad mewn disgwyliad oes i bobl â chyflyrau iechyd meddwl.

Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn cael effaith bositif ar iechyd meddwl. Mae tystiolaeth yn dangos bod rhoi’r gorau i ysmygu yn arwain at hwyliau ac ansawdd bywyd gwell, yn ogystal â lleddfu symptomau gorbryder ac iselder.

 

Beth mae'r Bwrdd Iechyd yn ei wneud

Rydym yn dilyn cyfraith newydd gan Lywodraeth Cymru i helpu i amddiffyn pawb rhag effeithiau niweidiol ysmygu mewn llawer o fannau cyhoeddus. Rydym wedi ymrwymo i leihau’r niwed y mae ysmygu yn ei achosi, ac i gefnogi ein cleifion, staff ac aelodau o’n cymuned ehangach i roi’r gorau iddi.

Bydd mynd yn ddi-fwg yn ein helpu i gefnogi iechyd a lles ein holl gleifion, staff ac ymwelwyr trwy ostwng eu hamlygiad i fwg sigaréts niweidiol.

Mae derbyniad i uned iechyd meddwl yn gyfle i fynd i’r afael ag ymddygiad ysmygu a chynnig cymorth. Mae astudiaethau wedi dangos bod pobl â chyflyrau iechyd meddwl yr un mor debygol o fod eisiau rhoi’r gorau iddi, a’u bod yr un mor abl i roi’r gorau iddi â’r boblogaeth gyffredinol os caiff y cymorth cywir ei gynnig iddynt.

Mae ein polisi yn golygu na fyddwch yn gallu ysmygu sigaréts, e-sigaréts na 'vape' unrhyw le ar ein safleoedd.

 

Sut y bydd unedau iechyd meddwl yn cefnogi cleifion i fynd yn ddi-fwg?

Bydd ein staff yn helpu cleifion i aros yn ddi-fwg yn ystod eu harhosiad yn un o'n hunedau.

Byddwn yn trafod arferion ysmygu gyda phob claf wrth gyrraedd, yn cynnig therapïau cyfnewid (gan gynnwys opsiynau fel losin a phatsys nicotin) ac yn trafod y cymorth arall sydd ar gael.

Bydd hyn yn cynnwys cymorth gyda chwantau a ffyrdd o gefnogi cleifion i aros yn ddi-fwg.

Fel rhan o'u cynllun gofal, bydd cleifion hefyd yn cael cynnig cymorth personol gan gynghorydd arbenigol a chymorth gan weddill y tîm.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn

Os oes gennych gwestiynau am y broses o fynd yn ddi-fwg yn ein hunedau, gallwch siarad â'ch nyrs benodol neu unrhyw aelod o'n tîm. Gallwch hefyd siarad ag aelodau o'ch tîm triniaeth yn y cartref neu iechyd meddwl cymunedol.

 

Mwy o gymorth i roi'r gorau i ysmygu

Mae cymorth un-i-un i roi’r gorau i ysmygu, gan gynnwys mynediad am ddim at feddyginiaethau cyfnewid fel losin a phatsys nicotin ar gael ar unrhyw adeg.

Cysylltwch â Helpa Fi i Stopio i ddysgu mwy.