Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnig cymorth un-i-un am ddim gan eich cynghorydd rhoi’r gorau i ysmygu personol bob wythnos, ynghyd â meddyginiaethau rhoi’r gorau i ysmygu am ddim gwerth hyd at £250.
Gallwch gael cymorth gan Helpa Fi i Stopio dros y ffôn, wyneb yn wyneb mewn lleoliad cymunedol cyfagos, neu gan eich fferyllfa leol. Mae cymorth arbenigol Helpa Fi i Stopio hefyd ar gael i ferched beichiog a phobl sy’n glaf mewnol yn un o’n hysbytai.
Gwnewch hyn er lles eich iechyd, neu iechyd eich teulu. Gwnewch hyn er mwyn arbed arian. Gwnewch hyn i deimlo'n fwy positif a llai o straen. Gwnewch hyn er mwyn cymryd rheolaeth. Gwnewch hyn i gael gwared ar y chwant a stopio sefyll y tu allan yn y glaw.
Nid yw rhoi'r gorau iddi yn hawdd. Mae llawer o bobl yn gweld ei bod yn cymryd mwy nag un ymdrech i roi'r gorau i ysmygu am byth. Ond rydyn ni bob amser yma i helpu.
P’un ai dyma’ch tro cyntaf neu os ydych wedi rhoi cynnig ar roi’r gorau iddi o’r blaen, mae croeso i chi gysylltu â Helpa Fi i Stopio i gael cymorth cyfeillgar gan arbenigwr rhoi’r gorau i ysmygu yn y GIG.
Os ydych yn ysmygu 20 sigarét y dydd, gallech arbed cymaint â £380 y mis pan fyddwch yn rhoi'r gorau i ysmygu.
Byddwch yn dechrau teimlo'r manteision iechyd o fewn ychydig oriau yn unig. Yn yr wythnos gyntaf yn unig, bydd eich synnwyr blas ac arogl yn gwella a bydd anadlu'n teimlo'n haws. Mewn ychydig fisoedd, bydd y peswch a'r gwichian yn lleihau a bydd eich iechyd cyffredinol yn gwella. Dros amser bydd eich risg o ganser yr ysgyfaint neu drawiad ar y galon yn gostwng hefyd.
Mae ein holl gefnogaeth yn rhad ac am ddim, ac yn anfeirniadol. Rydym yma i'ch helpu i roi'r gorau iddi - a gallwn roi awgrymiadau i chi i'ch helpu i osgoi sefyllfaoedd anodd, rheoli'ch chwantau, a rhoi'r gorau iddi am byth.
Rhoddodd Ian, Graham, Debbie a William y gorau i ysmygu gyda Helpa Fi i Stopio. Gwyliwch eu straeon isod.