Neidio i'r prif gynnwy

Helpa Fi i Stopio yn yr Ysbyty

Cymorth i roi'r gorau i ysmygu tra byddwch yn yr ysbyty

Mae Helpa Fi i Stopio yn yr Ysbyty yn cynnig cymorth arbenigol i gleifion roi'r gorau i ysmygu tra byddant yn ein hysbytai, ac i aros yn ddi-fwg ar ôl iddynt adael. Gall cleifion ddewis cael cymorth am ddim gan eu cynghorydd rhoi’r gorau i ysmygu personol, a chael meddyginiaethau rhoi’r gorau i ysmygu am ddim gwerth hyd at £250.

Er mwyn amddiffyn ein cleifion, staff ac ymwelwyr rhag effeithiau niweidiol ysmygu, mae ein holl safleoedd ysbytai yn gwbl ddi-fwg.

Bydd rhoi’r gorau i ysmygu - hyd yn oed am gyfnod byr - yn gwella eich iechyd cyffredinol ac ymateb eich corff i driniaeth. Os oes angen llawdriniaeth arnoch, yna gall rhoi'r gorau i ysmygu gyflymu'ch adferiad a lleihau'r amser sydd gennych i'w dreulio yn yr ysbyty. Os oes gennych chi salwch sy'n effeithio ar eich ysgyfaint, fel COVID-19, ffliw neu COPD, yna gallai rhoi'r gorau i ysmygu fod yn gymorth mawr i chi.

Mae sesiynau cyngor yn digwydd wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Maent wedi'u creu yn benodol ar gyfer eich anghenion ac yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i chi.

 

Amddiffyn cleifion, staff ac ymwelwyr

Rhoi'r gorau i ysmygu yw un o'r pethau gorau y gallwch chi ei wneud i wella'ch iechyd. Rydym yn argymell bod cleifion yn defnyddio eu hamser yn yr ysbyty fel cyfle i roi’r gorau i ysmygu.

Bydd Helpa Fi i Stopio yn yr Ysbyty yn darparu therapïau disodli nicotin (gan gynnwys opsiynau fel patsys neu losin) yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty i'ch helpu i reoli symptomau diddyfnu. Byddwn hefyd yn cynnig cymorth personol un i un gan gynghorydd ymroddedig a all eich helpu i roi'r gorau iddi.

Ni ddylai cleifion ysmygu unrhyw le yn ein hadeiladau nac ar ein tiroedd. O dan ddeddfau newydd a basiwyd gan Lywodraeth Cymru fe allai unrhyw un sy’n cael ei ganfod yn ysmygu ar safleoedd ysbytai gael dirwy o £100.

 

 

Rydych chi bedair gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau iddi gyda chymorth am ddim gan y GIG

Mae ein holl gefnogaeth yn rhad ac am ddim, ac yn anfeirniadol. Rydym yma i'ch helpu i roi'r gorau iddi - a gallwn roi awgrymiadau i chi i'ch helpu i osgoi sefyllfaoedd anodd, rheoli'ch chwantau, a rhoi'r gorau iddi am byth.

I gael rhagor o wybodaeth am Helpa Fi i Stopio yn yr Ysbyty, siaradwch â’r staff nyrsio ar eich ward.