Neidio i'r prif gynnwy

Anawsterau cyfathrebu

Bydd y therapydd iaith a lleferydd yn gweithio gyda chi i ddeall eich pryderon o ran cyfathrebu, gan gynnal asesiad wedi'i bersonoli gyda chi. Bydd yn helpu i nodi cryfderau yn eich sgiliau cyfathrebu, a meysydd ble mae angen cymorth arnoch o bosib.

Ar ôl eich asesiad, efallai y bydd y therapydd iaith a lleferydd yn awgrymu nifer o sesiynau therapi, neu dechnegau penodol i gefnogi'ch sgiliau cyfathrebu. Gall amcanion y therapi gynnwys:

  • Gwella'r gallu i ddefnyddio geiriau llafar neu ysgrifenedig i fynegi eich hun
  • Gwella dealltwriaeth o eiriau llafar neu ysgrifenedig
  • Gwella eglurder a rhuglder lleferydd
  • Gweithio gydag oedolion sydd ag atal dweud
  • Cynyddu hyder wrth gyfathrebu
  • Gwella ansawdd llais
  • Cyngor a hyfforddiant ar gyer eich teulu a'ch ffrindiau am y ffordd orau i gefnogi eich cyfathrebu

Efallai y bydd y therapydd iaith a lleferydd yn ystyried sut mae dulliau eraill yn eich cynorthwyo i gyfathrebu, fel Cyfathrebu Estynedig ac Amgen (AAC). Gellir defnyddio AAC i gynorthwyo lleferydd neu i gymryd ei le ac mae'n cynnwys amrywiaeth o strategaethau fel defnyddio lluniau, geiriau ysgrifenedig, arwyddion a phwyntio. Efallai y bydd ar rai pobl angen llyfr cyfathrebu neu offer cyfathrebu cyfrifiadurol.