Mae'r gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd yn darparu asesiad, triniaeth, cefnogaeth a gofal ar gyfer pobl o bob oed sydd ag anawsterau gyda chyfathrebu neu fwyta, yfed neu lyncu (dysffagia).
Mae Therapyddion Iaith a Lleferydd (SLT) yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac maent wedi cofrestru gyda Chyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd a Choleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd. Mae'r tîm hefyd yn cynnwys hyfforddwr technegol SLT (TI) - gweithwyr cymorth wedi eu hyfforddi'n arbennig i ddarparu cymorth SLT dynodedig ar draws ystod o leoliadau. Mae'r tîm SLT yn gweithio gyda chleifion, gofalwyr a theuluoedd, a gweithwyr proffesiynol eraill, megis athrawon, nyrsys, dietegwyr, therapyddion galwedigaethol a meddygon i ddarparu dull gyda'r unigolyn yn ganolbwynt iddo.
Mae therapi iaith a lleferydd o fudd i bobl o bob oed, er enghraifft:
Babanod: Mae SLT yn cefnogi babanod cynamserol gyda chyflyrau fel parlys yr ymennydd, taflod hollt a Syndrom Down sy'n cael anawsterau gydag yfed, llyncu a sgiliau chwarae a chyfathrebu yn gynnar iawn mewn bywyd.
Plant: Mae'r SLT yn cefnogi plant sydd ag anawsterau iaith, lleferydd, cyfathrebu a bwyta ac yfed. Mae'r rhain weithiau'n bodoli ochr yn ochr â chyflyrau eraill megis anawsterau dysgu a phroblemau gyda'r clyw.
Oedolion ag anawsterau dysgu: Mae'r SLT yn cefnogi oedolion sydd â chyflyrau datblygiadol megis anableddau dysgu, awtistiaeth a Syndrom Down, sydd ag anawsterau cyfathrebu neu fwyta, yfed neu lyncu
Oedolion: Mae SLT yn cefnogi oedolion ag anawsterau cyfathrebu a/neu lyncu sy'n deillio o gyflyrau fel strôc, canser y pen a'r gwddf, clefyd Parkinson's, clefyd motor niwron a dementia.
Hoffem wahodd myfyrwyr a staff i Ddigwyddiad Gyrfaoedd Ar-lein yn ymwneud â Therapi Iaith a Lleferydd (SLT). Mae Cynrychiolwyr Therapi Iaith a Lleferydd o bob un o'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru a chydweithwyr o Brifysgol Wrecsam a Phrifysgol Caerdydd wedi dod at ei gilydd i greu a chynnal y digwyddiad hwn ar fore 11 Hydref 2024.
Bydd y digwyddiad yn darparu gwybodaeth yrfaol ar gyfer darpar fyfyrwyr a staff am y canlynol:
- beth yw Therapi Iaith a Lleferydd
- beth mae therapyddion yn ei wneud, y cleifion rydym yn eu gweld a ble rydym yn gweithio,
- beth mae angen i chi ei wneud i ddod yn Therapydd Iaith a Lleferydd
Bydd cyfle hefyd i glywed gan aelodau o staff presennol am eu profiadau a chan gleifion yn ymwneud â'u taith Therapi Iaith a Lleferydd.
Mae angen i'r rhai sy'n awyddus i gymryd rhan gofrestru ar gyfer y digwyddiad ac i gwblhau'r holiadur ar dudalen Eventbrite
I gysylltu â’r tîm iaith a lleferydd, gweler y manylion cyswllt ar gyfer y siroedd isod: