Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Oedolion

Mae ein therapi iaith a lleferydd yn darparu asesiad, cymorth a therapi ar gyfer oedolion sydd ag anawsterau llyncu a chyfathrebu.

Pwy ydyn ni'n eu trin?

Yn gyffredinol, rydym yn rhoi cymorth i bobl dros 18 mlwydd oed. Rydym yn trin pobl gydag ystod o gyflyrau sy'n effeithio ar gyfathrebu neu lyncu, megis:

  • Strôc
  • Dementia
  • Cyflyrau niwrolegol cynyddol (megis Cyflwr Parkinson's)
  • Canserau'r pen a'r gwddf
  • Anaf i'r ymennydd
  • Anhwylder ar y llais
  • Atal Dweud
  • Anabledd Dysgu
Ble'r ydym yn gweithio?

Rydym yn trin llawer o bobl mewn lleolaidau gwahanol, gan gynnwys yn nghartref y claf, yn yr ysbyty, mewn canolfannau dydd, mewn cartrefi gofal, ac mewn clinigau cleifion allanol.