Neidio i'r prif gynnwy

E-Lyfrgell GIG Cymru

Dyma gasgliad o adnoddau electronig, wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael i holl staff GIG Cymru a myfyrwyr gofal iechyd ar leoliad.

 

Mae'n cynnwys e-gylchgronau cyflawn, cronfeydd data fel Medline, Embase, Emcare, Social Care Online, PsycInfo, yn ogystal â Gwybodaeth am Feddyginiaethau (BNF & BNF i Blant), a dolenni i ganllawiau clinigol. Mae hefyd yn cynnwys mynediad at yr offeryn crynhoi tystiolaeth BMJ Best Practice, a'r peiriant chwilio clinigol ClinicalKey.

 

Gellir cael Royal Marsden Manual of Clinical Procedures Online (10th ed) hefyd. Mae'n adnodd sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am weithdrefnau clinigol, ac yn cefnogi darparu gofal sy'n canolbwyntio ar y claf.

 

Ewch i’r dudalen e-lyfrgell GIG Cymru  i gael mynediad at yr adnoddau hyn ac i gael rhestr lawn o'r adnoddau cyfredol.

I gael mynediad llawn i lawer o'r adnoddau byddwch yn cael eich annog i fewngofnodi. Cyflwynir dau opsiwn mewngofnodi i chi:

Cyfeiriad E-bost GIG Cymru: Dewiswch yr opsiwn hwn os oes gennych gyfeiriad e-bost GIG a chyfrinair rhwydwaith (NADEX).

OpenAthens: Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost GIG Cymru, gallwch hunangofrestru ar gyfer cyfrif OpenAthens.

 

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i chwilio'r adnoddau electronig, mae cymorth un i un ar gael trwy gysylltu â'ch llyfrgell iechyd lleol.