Neidio i'r prif gynnwy

Benthyciadau rhwng Llyfrgelloedd

 

Os nad oes llyfr neu erthygl mewn cyfnodolyn ar gael yn eich casgliad llyfrgell lleol gallwn ei gael ar eich cyfer trwy ein Gwasanaeth Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd.

 

Cyn ichi wneud cais gwiriwch y canlynol:

Os nad yw’r hyn yr ydych ei eisiau yng Nghymru byddwn yn cysylltu â'n rhwydwaith helaeth cenedlaethol o lyfrgelloedd i ddod o hyd i eitemau.

 

Pwy all ddefnyddio'r gwasanaeth?

Mae'r cyflenwad o eitemau i’w benthyg a llungopïau o erthyglau o lyfrgelloedd eraill ar gael i holl staff y GIG yn BIPBC a myfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd a Manceinion sydd ar leoliad.

Os nad ydych yn dod o fewn un o'r categorïau hyn a'ch bod yn mynychu cwrs mewn Coleg neu Brifysgol, gwiriwch eu gwasanaethau Llyfrgell a'u cyfnodolion electronig, oherwydd efallai y gallant helpu gyda’ch cais.

 

Sut mae gwneud cais?

Gellir cyflwyno ceisiadau trwy un o'r dulliau canlynol:

E-bostiwch y llyfrgell yr ydych yn dymuno casglu'r benthyciad rhwng llyfrgelloedd ohoni. Os ydych chi'n anfon rhestr, defnyddiwch yr opsiwn hwn os gwelwch yn dda.

Llenwch Ffurflen Gais am Fenthyciad Rhwng Llyfrgelloedd sydd ar gael yn y llyfrgelloedd (mae'r ffurflen hon hefyd yn cynnwys y Datganiad Hawlfraint).

Ffoniwch y llyfrgell rydych chi eisiau casglu'r benthyciad rhwng-llyfrgelloedd ohoni.

 
Beth i'w gynnwys yn eich cais
  • Teitl y cyfnodolyn neu'r llyfr
  • Teitl erthygl y cyfnodolyn (neu bennod y llyfr os oes angen)
  • Awdur yr erthygl neu'r llyfr (os yw'r bennod yn rhoi golygydd y llyfr ac awdur y bennod)
  • Blwyddyn
  • Cyfrol y cyfnodolyn
  • Rhifyn y cyfnodolyn (os yw'n hysbys)
  • Rhifau tudalennau
  • Rhifyn y llyfr
  • Eich enw (wedi’i brintio)
  • Rhif cerdyn aelodaeth llyfrgell
  • Cyfeiriad gwaith neu gyfeiriad cartref
  • Rhif cyswllt neu rif bleep
  • Eich llofnod os ydych chi'n defnyddio ffurflen Cais am Fenthyciad Rhwng Llyfrgelloedd.

Dywedwch wrthym os yw'r eitem sydd ei angen ar gyfer gofal cleifion, ymchwil, addysg neu ddiben arall (nodwch ee ysgrifennu'r erthygl i'w chyhoeddi).

 

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd?

Byddwn yn anfon eich cais i'r llyfrgell gyflenwi o fewn 24 awr, ond gallai gymryd rhwng 3 a 10 diwrnod gwaith cyn ichi ei dderbyn. Byddwn yn eich hysbysu am unrhyw oedi a ddaw i’r amlwg.

Os oes angen eitem ar gyfer gofal brys i gleifion, ffoniwch y llyfrgell yr ydych am ofyn amdani ac esboniwch eich amserlen. Byddwn yn cyflenwi'r eitem cyn gynted â phosibl, ond weithiau gall dyddiad cau byr iawn gynyddu'r costau i'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd, felly byddwn yn ceisio canfod faint o frys sydd am eich cais a sicrhau ei fod ar gyfer gofal cleifion.

 

A oes unrhyw daliadau?

Nid oes angen i chi dalu am fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd, ond weithiau mae'n rhaid i'r Gwasanaeth Llyfrgell dalu'r llyfrgell gyflenwi am geisiadau. Gofynnwn felly ichi ddefnyddio'r gwasanaeth benthyciadau rhwng-llyfrgelloedd yn gyfrifol, a gofyn am yr eitemau hynny y credwch a fydd yn cynnwys gwybodaeth sylweddol ac a fydd yn wirioneddol ddefnyddiol i'ch gwaith. Os nad ydych yn weithiwr GIG efallai y byddwn yn cael benthyciad o lyfrgell arall i chi yn ôl ein disgresiwn, ond codir tâl arnoch am y gwasanaeth wedyn.