Neidio i'r prif gynnwy

OpenAthens

 

Beth yw OpenAthens?

System rheoli mynediad yw OpenAthens a ddefnyddir i ddarparu mynediad at adnoddau electronig y mae GIG Cymru yn tanysgrifio iddynt ar gyfer staff y GIG yng Nghymru, ac adnoddau electronig lleol a brynir gan Lyfrgelloedd BIPBC.

 

Pam fod angen cyfrif OpenAthens arnaf?

Bydd cyfrif OpenAthens yn rhoi mynediad ichi i dros fil o gyfnodolion cyflawn, amrywiaeth o gronfeydd data meddygol ac adnoddau eraill ar e-Lyfrgell Iechyd Byddwch yn cael enw defnyddiwr a chyfrinair unigryw i'ch galluogi i gyrchu'r adnoddau hyn o'r gwaith neu'r cartref.

 

Cofrestru ar gyfer cyfrif OpenAthens o'r gwaith

Ewch i dudalen e-Lyfrgell Iechyd ar gyfer OpenAthens a chlicio ar Cofrestrwch ar gyfer Cyfrif OpenAthens

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Llenwch a chyflwynwch y ffurflen gofrestru. Gwiriwch eich manylion a gwnewch nodyn o'ch enw defnyddiwr OpenAthens.

Byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau gyda dolen actifadu. I ddefnyddio'r cyfrif mae'n rhaid i chi ei actifadu a dewis cyfrinair. 

 

Cofrestru ar gyfer cyfrif OpenAthens o gartref

Mae cofrestru ar gyfer cyfrif o’ch c artref yn union yr un fath â chofrestru o'r gwaith. Byddwch yn ymwybodol y gallai fod oedi wrth brosesu eich cofrestriad os byddwch chi'n dewis cofrestru trwy'r rhyngrwyd.

 

Cyrchu'ch cyfrif OpenAthens

Gallwch gael mynediad i'ch cyfrif mewn dwy ffordd:

Cliciwch ar yr adnoddau e-Lyfrgell Iechyd yr ydych am eu defnyddio a rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair pan ofynnir i chi wneud hynny.

Mewngofnodi trwy'r tab Mewngofnodi i OpenAthens Yma fe welwch eich tudalen OpenAthens eich hun lle gallwch weld a chyrchu'r adnoddau sydd ar gael i chi, gweld manylion eich cyfrif a newid eich cyfrinair.

 

Newid eich cyfrinair

Ni allwch newid eich enw defnyddiwr ond, os ydych am newid eich cyfrinair, dewiswch y tab “My Account” ar eich tudalen MyAthens. Yma bydd angen ichi nodi'ch hen gyfrinair ac yna teipio'r un newydd. Gallwch hefyd gysylltu â'ch gweinyddwr OpenAthens lleol.

 

Wedi anghofio'ch cyfrinair?

Os na allwch gofio'ch cyfrinair, cliciwch ar OpenAthens Ailosod Cyfrinair.

Rhowch eich enw defnyddiwr OpenAthens a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Bydd OpenAthens yn e-bostio dolen y gallwch ei defnyddio i ailosod eich cyfrinair. 

 

Ble alla i gael help ar ddefnyddio OpenAthens?

Cysylltwch â'ch llyfrgell safle i gael mwy o help.