Neidio i'r prif gynnwy

Meddalwedd Arbenigol

 

EndNote 

Offeryn rheoli cyfeirnodau yw EndNote sy'n trefnu ac yn storio cyfeirnodau a PDFs i lyfrgell bersonol, sy'n eich galluogi i 'ddyfynnu wrth i chi ysgrifennu', a chreu llyfryddiaethau. Mae ein trwydded yn caniatáu i 40 o ddefnyddwyr llyfrgell gael Endnote yr un pryd. Cysylltwch â'ch llyfrgell iechyd leol i gael Endnote wedi'i osod ar eich gweithfan. Mae fersiwn we am ddim o'r enw Endnote web  hefyd ar gael i ddefnyddwyr.

 

SPSS 

Pecyn meddalwedd yw SPSS a ddefnyddir ar gyfer dadansoddiadau ystadegol mewn ymchwil. Mae llyfrgelloedd BIPBC wedi prynu trwydded defnyddiwr sengl sy'n caniatáu i un defnyddiwr llyfrgell ar draws y Bwrdd Iechyd gael mynediad at SPSS ar unrhyw un adeg. I gael SPSS wedi'i osod ar eich gweithfan, cysylltwch â ni.