Neidio i'r prif gynnwy

Cyfnodolion, Print ac Electronig

 

Mae gennym fynediad cynhwysfawr i gyfnodolion print ac electronig, a fydd yn rhoi gwybod ichi am ddatblygiadau cyfredol yn eich arbenigedd. Mae ein casgliad ein hunain yn cynnwys toreth o gyfnodolion print ac electronig sy'n cwmpasu'r arbenigeddau ym maes meddygaeth ac iechyd. 

 

Gellir canfod cyfnodolion electronig y mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn tanysgrifio iddynt ar LibrarySearch.

 
 
E-Lyfrgell GIG Cymru

Mae Casgliad e-Gyfnodolion GIG Cymru yn darparu mynediad testun llawn i dros 2,300 o danysgrifiadau a brynwyd gan Lywodraeth Cymru, a 2,200 o deitlau iechyd a meddygaeth mynediad agored. Gellir chwilio am gyfnodolion electronig sydd ar gael ar y e-Lyfrgell GIG Cymru ar LibrarySearch

Er mwyn cyrchu'r cyfnodolion hyn o'r tu allan i rwydwaith GIG Cymru bydd angen rhif eich cerdyn llyfrgell a chyfrinair arnoch a chewch eich annog i fewngofnodi. Cyflwynir dau opsiwn mewngofnodi i chi:

Cyfeiriad E-bost GIG Cymru (Mewngofnodi Sengl/Single Sign On): Dewiswch yr opsiwn hwn os oes gennych gyfeiriad e-bost GIG a chyfrinair rhwydwaith (NADEX).

OpenAthens: Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost GIG Cymru, gallwch hunangofrestru ar gyfer cyfrif OpenAthens

 

Cyfnodolion Ar Gael yn Clinical Key

Mae mwy na 1000 o deitlau cyfnodolion cyflawn wedi'u cynnwys yn Clinical Key. Gellir pori trwy'r rhain yn ôl teitl neu yn ôl arbenigedd clinigol. I gael mynediad i'r cyfnodolion byddwch yn cael eich annog i fewngofnodi gyda Chyfeiriad E-bost GIG Cymru a chyfrinair NADEX (Single Sign On) neu eich cyfrif Open Athens.

 

KnowledgeShare

Ydych chi’n ei chael hi’n anodd dal i fyny â’r dystiolaeth, ymchwil a’r datblygiadau ddiweddaraf? Mae Llyfrgelloedd BIPBC ynghŷd â dros 40 o Wasanaethau Llyfrgell led led y DU, yn rhoi mynediad i Ddiweddariadau Tystiolaeth KnowledgeShare, sy’n cynnig y dystiolaeth lefel uchel ddiweddaraf, wedi ei theilwra i’ch diddordebau chi. Mae’r adnoddau sy’n cael eu defnyddio gan KnowledgeShare yn cynnwys ystod eang o ffynonellau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, megis Cochrane Library a NICE, yn ogystal â diweddariadau gan Lywodraeth Cymru.

I fanteisio ar y gwasanaeth ymwybyddiaeth cyfredol hwn, ymwelwch neu gysylltwch â’ch Llyfrgell BIPBC i gael ffurflen gofrestru.

 

Cyfnodolion Meddygol Am Ddim 

Ydych chi'n chwilio am fynediad at gyfnodolion meddygol cyflawn am ddim ar-lein? Rhowch gynnig ar Free Medical Journals, gwefan sy'n hyrwyddo mynediad at deitlau y mae cyhoeddwyr yn eu darparu yn rhad ac am ddim. Mae mynediad hefyd i lyfrau meddygol am ddim

Mae cyhoeddiadau / cyfnodolion Mynediad Agored (OA) yn caniatáu mynediad ar-lein i ymchwil ysgolheigaidd a adolygir gan gymheiriaid yn rhad ac am ddim i bawb. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy am Fynediad Agored.