Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Gwynedd

Dylai cleifion sy’n dod i’r Uned gyrraedd y safle trwy brif fynedfa’r ysbyty. Wrth i chi ddod i mewn i’r ysbyty fe welwch ddesg y brif dderbynfa ar yr ochr chwith. Gadewch i’r derbynnydd wybod eich bod wedi cyrraedd ar gyfer eich apwyntiad endosgopi, os gwelwch yn dda, a gwnaiff gysylltu â’r Uned ar eich rhan chi. 

Yna bydd y derbynnydd yn gofyn i chi aros yn y man aros Endosgopi a leolir y tu ôl i ardal y ddesg wrth waelod grisiau llydan (gyferbyn â’r ddesg derbynfa allgleifion).

Eisteddwch yn y man aros hon a bydd aelod o’r tîm Endosgopi yn dod i’ch hebrwng i’r Uned Endosgopi. 

Lleolir yr Uned Endosgopi ar y llawr cyntaf. Os oes gennych chi broblem gyda’ch symudedd gadewch i’r aelod staff wybod wrth eich cyrraedd yn y man aros er mwyn i chi ddefnyddio’r lifft yn hytrach na’r grisiau.