Neidio i'r prif gynnwy

Ein Cyfleusterau

26/10/21
Ysbyty Gwynedd

Dylai cleifion sy’n dod i’r Uned gyrraedd y safle trwy brif fynedfa’r ysbyty. Wrth i chi ddod i mewn i’r ysbyty fe welwch ddesg y brif dderbynfa ar yr ochr chwith. Gadewch i’r derbynnydd wybod eich bod wedi cyrraedd ar gyfer eich apwyntiad endosgopi, os gwelwch yn dda, a gwnaiff gysylltu â’r Uned ar eich rhan chi. 

Yna bydd y derbynnydd yn gofyn i chi aros yn y man aros Endosgopi a leolir y tu ôl i ardal y ddesg wrth waelod grisiau llydan (gyferbyn â’r ddesg derbynfa allgleifion).

Eisteddwch yn y man aros hon a bydd aelod o’r tîm Endosgopi yn dod i’ch hebrwng i’r Uned Endosgopi. 

Lleolir yr Uned Endosgopi ar y llawr cyntaf. Os oes gennych chi broblem gyda’ch symudedd gadewch i’r aelod staff wybod wrth eich cyrraedd yn y man aros er mwyn i chi ddefnyddio’r lifft yn hytrach na’r grisiau. 

26/10/21
Ysbyty Glan Clwyd

Mae’r Uned Endosgopi ar lawr cyntaf Ysbyty Glan Clwyd. Ar ôl parcio ewch trwy’r brif fynedfa (Mynedfa B) at y prif lifftiau. Ewch i’r llawr cyntaf, troi i’r dde a dilyn yr arwyddion i’r Uned Endosgopi.   

26/10/21
Ysbyty Wrecsam Maelor

Ewch i’r uned yn uniongyrchol trwy giat 3, wrth i chi droi oddi ar y ffordd ar y pwynt yma fe welwch chi adeilad yr Uned Endosgopi o’ch blaen chi. Y fynedfa i’r uned yw’r prif ddrysau dwbl, a bydd aelod o’r tîm Endosgopi yn eich croesawu yno.