Neidio i'r prif gynnwy

Endosgopi

Mae endoscopi yn broses lle mae rhannau o du mewn eich corff yn cael eu harchwilio gan ddefnyddio teclyn optegol meddygol. Gall y broses endosgopi fod:

  • trwy’r geg i’r stumog (gastrosgopi)
  • trwy’r anws i’r coluddyn mawr (colonosgopi neu sigmoidosgopi hyblyg)
  • trwy’r trwyn i’r ysgyfaint (broncosgopi)

Fe’i defnyddir i dynnu sampl bychan o feinwe fel y gellir ei wirio am gelloedd canser (biopsi).

Proses arall sy’n cael ei pherfformio gan ein tîm endsosgopi yw colangiopancreatograffeg gwrthredol endosgopic (ERCP - endoscopic retrograde cholangiopancreatography). Mae’r broses hon yn archwilio’r pibellau sy’n draenio bustl o’r iau a suddion treulio o’ch pancreas. Gallai’r broses hon gael ei chyflawni mewn ystafell Radioleg er mwyn defnyddio’r peiriant pelydr X. 

Mae’r Uned Endosgopi yn rhan o’r gwasanaeth sgrinio coluddion cenedlaethol sy’n rhoi diagnosis cynnar canser y coluddyn i bobl rhwng 58 a 74 oed. Nod yr ymchwiliad hwn yw canfod a gwaredu tyfiannau bach yn y coluddyn, o’r enw polypau, a allai droi’n ganser yn ddiweddarach.

Mae tîm o ymgynghorwyr Gastroenteroleg, y Colon a’r Rhefr a Resbiradol a Nyrsys Endosgopi yn cynnal y prosesau yn ein hunedau. Mae’r holl brosesau a’r rhai sy’n eu cynnal yn cael eu monitro’n ofalus o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad cleifion yn unol â’r egwyddorion a amlinellwyd gan y Cyd-grŵp Cynghori ar safonau endosgopi. 

Rydym ni’n cynnig endosgopi capsiwl hefyd ac yn cymryd rhan mewn treialon ar gyfer technolegau newydd ac sy’n datblygu a arweinir gan Raglen Endosgopi Cenedlaethol Cymru. 

Pam fyddech chi’n cael eich atgyfeirio am endsgopi?

Defnyddir endosgopi yn fwyaf cyffredin i ymchwilio i symptomau sy’n achosi pryder neu boen i chi. Gellir argymell endosgopi i ymchwilio i’r symptomau a ganlyn: 

  • anawsterau llyncu neu boen wrth lyncu (dysffagia)
  • poen cyson yn yr abdomen
  • poen yn y frest nad yw’n cael ei achosi gan gyflyrau’n gysylltiedig â’r galon
  • teimlo’n gyfoglyd yn gyson a chwydu
  • colli pwysau’n ddiesboniad
  • chwydu gwaed
  • dolur rhydd cyson
Ein Cyfleusterau

Mae gennym ni dair Uned Endosgopi ar draws Gogledd Cymru sy’n gofalu am oedolion fel allgleifion a chleifion sy’n aros yn yr ysbyty i dderbyn yr ystod prosesau endosgopig. 

Beth i'w ddisgwyl

Gwybodaeth am y broses. 

Cysylltu gyda'n gwasanaethau Endosgopi

Gwybodaeth cysylltu ein Unedau Endosgopi.

Cwestiynau cyffredin am Endosgopi

Cwestiynau cyffredin am Gwasanaethau Endosgopi.

Dolenni i wybodaeth ac adnoddau defnyddiol

Dolenni i wybodaeth ac adnoddau defnyddiol endosgopi