Neidio i'r prif gynnwy

Gweld fferyllydd am gyflyrau meddygol cyffredin

Gall pob fferyllydd gynnig meddyginiaethau dros y cownter a chyngor ar gyfer ystod eang o anhwylderau a phroblemau cyffredin, heb fod angen i gleifion weld meddyg.

Gall rhai fferyllwyr ragnodi mwy o feddyginiaethau. Gall fferyllydd rhagnodi annibynnol benderfynu a oes angen presgripsiwn arnoch ar gyfer problemau gan gynnwys: cyflyrau’r glust, y trwyn, y geg a’r llygaid, dolur gwddf, heintiau’r frest a pheswch, heintiau’r llwybr wrinol, gowt, cyfog a chwydu, fertigo a meigryn, poen yn y cefn a phoen arthritig, a chyflyrau croen fel brechau a’r eryr.

Dim ond fferyllwyr rhagnodi annibynnol cymwys mewn rhai fferyllfeydd cymunedol all ragnodi meddyginiaethau yn y modd hwn. Holwch ble i ddod o hyd i'ch fferyllfa ragnodi annibynnol agosaf a ffoniwch cyn ymweld i drefnu apwyntiad ymlaen llaw.

Gall eich fferyllydd eich cyfeirio at feddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol arall os ydynt yn meddwl bod angen mwy o driniaeth arnoch.