Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n ddiogel mewn amodau oer eithafol

Gyda'n gaeafau yn dechrau yn gynharach ac yn mynd yn fwy llym, mae angen i ni fod yn barod am yr amodau hyn.  Mae yna ychydig o bethau syml y gallwn eu gwneud i gadw ein hunain a'r rhai sy'n agored i niwed yn ddiogel yn ystod y tywydd oer. Mae'r rhain yn cynnwys:

Derbyn eich brechiad rhag COVID-19 a ffliw

Y ffordd orau o amddiffyn eich hun rhag firysau anadlol y gaeaf hwn yw sicrhau eich bod wedi derbyn eich brechiad rhag COVID-19 a’r ffliw. 

Bod un cam o flaen y tywydd 

Gwrandewch ar ragolygon y tywydd gan dalu sylw arbennig i rybuddion o dywydd oer iaen ar y teledu, y radio neu mewn cylchgronau. Gallwch hefyd fynd i wefan y Swyddfa Dywydd.

Prynu digonedd o fwydydd tun a bwydydd wedi'u rhewi

Prynu digonedd o fwydydd tun a bwydydd wedi'u rhewi fel na fydd raid i chi fynd allan ormod pan fydd hi'n oer neu'n rhewi. Cofiwch fod ffrwythau a llysiau o dun neu wedi'u rhewi'n cyfrif tuag at eich 'pump y dydd'.

Bwyta'n dda 

Cymerwch ddigon o fwydydd a diodydd poeth i gadw'ch lefelau ynni'n uchel a'ch corff yn gynnes yn ystod y gaeaf.

Peswch ac annwyd 

Prynwch ddigon o foddion dros y cownter, gorchuddiwch eich trwyn a'ch ceg gyda hances bapur pan fyddwch yn tagu neu'n tisian, a'i rhoi yn y bin cyn gynted â phosib wedyn.  Golchwch eich dwylo yn rheolaidd.

Dal i symud

Os oes modd, ceisiwch symud o gwmpas o leiaf unwaith yr awr.

Gwisgo ar gyfer y tywydd 

Drwy wisgo llawer o haenau tenau. Mae dillad cotwm, gwlân neu ddefnydd cnu yn arbennig o dda ac yn helpu i gynnal gwres y corff. Dylech wisgo esgidiau gyda gwadnau sy'n cydio'n dda er mwyn ymdopi â lloriau gwlyb a llithrig, a chofiwch wisgo cot gynnes, het a sgarff bob tro yr ewch allan.

Cynhesu eich tŷ i'r tymheredd iawn 

Dylai eich prif ystafell fyw fod tua 18 - 21°C (64-70°F), a dylai gweddill y tŷ fod o leiaf 16°C (61°F). Efallai eich bod yn gwastraffu arian os yw'n uwch na hyn; os yw'n is na hyn, efallai eich bod yn peryglu eich iechyd. Os na allwch gynhesu pob ystafell y byddwch yn ei defnyddio, cynheswch yr ystafell fyw drwy gydol y dydd a'ch ystafell wely ychydig cyn i chi fynd i'r gwely. Caewch y llenni a'r drysau a defnyddiwch rimyn drafft i gadw'r gwres yn yr ystafelloedd.

Mynd i weld a yw eich cymdogion a'ch perthnasoedd sy'n agored i niwed yn iawn

Dylech fynd i weld cymdogion a pherthnasau hŷn, a'r rhai sydd â phroblemau calon neu anadlu, i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn iach.  Gweler gwefan Age Cymru i gael rhagor o wybodaeth am gadw ein gilydd yn ddiogel yn ystod y gaeaf.