Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n iach yn ystod y gaeaf

Gall misoedd y gaeaf gael effeithiau negyddol ar fywyd bob dydd, yn enwedig i'r rhai sydd eisoes yn agored i niwed o ganlyniad i'w hoedran, salwch neu anabledd.

Gall y tywydd oer waethygu problemau iechyd a gall arwain at gymhlethdodau difrifol. Mae'r oerfel yn cynyddu'r risg o hypothermia, yn enwedig ymhlith yr henoed, yn ogystal â chynyddu'r risg o anaf megis llithro neu syrthio mewn pan fydd hi'n rhewllyd.

Pobl sy'n wynebu'r risg mwyaf yn sgil y tywydd oer

Dyma'r grwpiau o bobl sy'n tueddu i fod yn fwy agored i effeithiau tywydd oer:

  • pobl sy'n 65 mlwydd oed neu'n hŷn
  • babanod a phlant o dan 5 oed
  • pobl ar incwm isel (efallai na allant fforddio gwresogi)
  • pobl sydd â chyflwr iechyd tymor hir
  • pobl sydd ag anabledd
  • merched beichiog
  • pobl sydd â chyflwr iechyd meddwl

Os byddwch chi'n teimlo'n sâl y gaeaf hwn, mae gennym nifer o opsiynau a gwasanaethau ar draws Gogledd Cymru i'ch helpu i gael y cyngor a'r / neu'r driniaeth briodol.