Neidio i'r prif gynnwy

Trawma geni seicolegol

Gall genedigaeth fod yn drawmatig am lawer rheswm, megis: 

  • Cawsoch weithred cymell geni neu broses esgor hir.
  • Roedd pryderon am les eich babi.
  • Fe allech fod wedi profi genedigaeth offerynnol heriol neu doriad cesaraidd frys.
  • Fe allech chi neu eich babi fod wedi bod yn anhwylus. Gall hyn hefyd eich cynnwys chi yn profi materion iechyd meddwl yn ystod eich beichiogrwydd.
  • Fe allech fod wedi cael genedigaeth gorfforol syml, ond wedi teimlo ofn yn ystod eich esgoriad neu’n methu â chael gwrando ar eich dymuniadau neu bryderon.

Gall partneriaid geni hefyd deimlo trawma wedi tystio i ddigwyddiad trallodus, weithiau hyd yn oed os yw’r wraig roddodd enedigaeth yn teimlo’n iawn.

Yn yr wythnosau wedi’r enedigaeth, bydd y rhan fwyaf o ferched yn gallu prosesu digwyddiadau’r geni ac unrhyw emosiynau anodd y maen nhw’n eu profi, gyda chymorth priodol. Gall siarad â theulu neu ffrindiau fod yn ddefnyddiol. 

Mae rhai merched fodd bynnag yn canfod nad yw’r emosiynau hyn yn mynd i ffwrdd ac fe allant ddechrau profi symptomau Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD). Gall hyn amrywio o ysgafn i ddifrifol a gall effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd.

Mae rhain yn cynnwys:

  • Pryder uchel
  • Pyliau o banig
  • Gor-wyliadwraeth
  • Ôl-fflachiadau o’r digwyddiad
  • Hunllefau
  • Teimladau o euogrwydd
  • Iselder
  • Problemau gyda bondio ac ymlyniad
  • Anawsterau perthynas
  • Osgoi teimladau neu atgofion o’r digwyddiad

Os ydych yn sylwi bod y symptomau hyn yn para yn hirach nag oddeutu pedair wythnos wedi’r enedigaeth, yna gallech fod yn dioddef o PTSD. Rydych yn fwy tebygol o brofi PTSD yn dilyn genedigaeth os gwnaethoch ddioddef o orbryder neu iselder yn ystod beichiogrwydd neu wedi dioddef profiadau trawma blaenorol. Mae hefyd yn bwysig cofio y gall PTSD ddatblygu wythnosau, fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd wedi’r enedigaeth.

Fe allech ei chael yn anodd bod yn agored o flaen eraill oherwydd eich bod yn teimlo na allwch siarad am yr hyn sydd wedi digwydd i chi.  Ond nid oes angen i chi fedru disgrifio’r trawma i ddweud wrth rywun sut rydych yn teimlo ar hyn o bryd. Mae troi at eich bydwraig, ymwelydd iechyd neu Feddyg Teulu yn bwysig gan y gallant eich helpu i gael y gofal a’r cymorth priodol.

Gall y gefnogaeth hon gynnwys:

Rhai adnoddau defnyddiol