Neidio i'r prif gynnwy

Iselder cynenedigol ac ôl-enedigol

Iselder cynenedigol yw pan rydych yn teimlo’n isel am gyfnodau hir o amser yn ystod eich beichiogrwydd. Gall y cyflwr amrywio o ysgafn i ddifrifol a gall effeithio ar ferched mewn gahanol ffyrdd.

Mae rhai merched yn cael iselder ar ôl cael babi, gelwir hyn yn iselder ôl-enedigol

Gall hormonau beichiogrwydd effeithio ar eich emosiynau, ac fe allech hefyd gael trafferth cysgu neu fod yn teimlo’n sâl. Os yw symptomau fel hyn yn para am gyfnod hir, gallant wneud i chi deimlo’n isel.

Ymddiriedwch ynoch eich hun. Chi yw’r beirniad gorau a yw’ch teimladau yn rhai arferol i chi. Siaradwch â’ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu Feddyg Teulu os ydych yn meddwl bod gennych unrhyw symptomau o iselder sy’n para am fwy na dwy wythnos. Maen nhw yno i’ch cynorthwyo chi.

Mae iselder yn gyflwr iechyd meddwl ac nid yn arwydd o wendid neu’n rhywbeth fydd yn mynd i ffwrdd ar ei liwt ei hun. Gellir trin iselder gyda’r gofal a’r cymorth cywir, yn arbennig os canfyddir ef yn gynnar.

Arwyddion o iselder

Mae arwyddion o iselder yn cynnwys:

  • Teimlo’n gyffredinol yn isel y rhan fwyaf o’r amser
  • Dim amynedd trafferthu gyda phethau
  • Methu canolbwyntio neu wneud penderfyniadau
  • Ddim yn mwynhau bywyd
  • Teimlo’n ddagreuol
  • Teimlo’n bigog/aniddig a ddim eisiau bod gyda phobl eraill
  • Teimlo’n aflonydd a chynhyrfus
  • Colli eich hunan-hyder
  • Teimlo’n ddi-werth
  • Teimlo’n euog
  • Meddwl am niweidio eich hun neu ddiweddu eich bywyd

Efallai nad oes gennych chi’r holl symptomau hyn ac fe allant ddod ymlaen yn raddol, neu efallai y byddwch chi’n dechrau teimlo’n isel yn sydyn.

Ble i gael cymorth

Dywedwch wrth eich bydwraig, ymwelydd iechyd neu feddyg sut rydych yn teimlo. Mae rhai merched yn teimlo’n drallodus iawn neu’n euog o deimlo’n isel ar adeg pan mae pawb yn disgwyl iddynt fod yn hapus. Cofiwch na fydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn eich beirniadu chi. Maen nhw’n deall fod iselder yn gyflwr iechyd meddwl. Nid eich bai chi ydyw, neu rhywbeth rydych ddim ond angen ‘dod drosto’ neu ‘symud ymlaen’. Fe fyddant yn canolbwyntio ar ganfod y driniaeth a’r cymorth cywir i chi fel y gallwch ofalu amdanoch chi eich hunan a’ch babi.

Os ydych yn teimlo fel eich bod eisiau niweidio eich hunan neu’n cael meddyliau am hunan-laddiad, mae’n bwysig dweud wrth rywun yn syth. Fe allai hwn fod yn aelod o’r teulu, ffrind, neu eich Meddyg Teulu, bydwraig neu ymwelydd iechyd.

Mae cymorth hefyd ar gael nawr os oes ei angen: