Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd meddwl a lles – Sut gallaf i helpu fy hun?

Os ydych yn teimlo fel eich bod eisiau niwiedio eich hunan neu’n cael meddyliau am hunanladdiad, mae’n bwysig dweud wrth rywun yn syth. Os ydych mewn argyfwng ac angen cymorth brys, ewch i’n tudalen ar gael cymorth mewn argyfwng iechyd meddwl ewch i’n tudalen ar gael cymorth mewn argyfwng iechyd meddwl.  

Rydym yn deall y gallech fod yn bryderus am y beichiogrwydd neu am gael babi. Mae rhai o’r pethau cyffredin yn cynnwys:

  • Newidiadau sy’n sicr o ddigwydd yn eich bywyd o ddod yn rhiant.
  • Rhoi’r gorau i weithio.
  • Newidiadau yn eich perthnasau.
  • A fyddwch chi’n rhiant da.
  • Ofn y bydd cymhlethdodau gyda beichiogrwydd neu gyda’ch babi.
  • Ofn genedigaeth.
  • Diffyg cymorth o’ch cwmpas chi a bod ar eich pen eich hun.

Gall anawsterau iechyd meddwl ddigwydd i unrhyw un ar unrhyw adeg. Ni chewch eich beirniadu am sut yr ydych yn teimlo. Bydd eich tîm gofal beichiogrwydd, yn cynnwys eich Meddyg Teulu, bydwraig ac ymwelydd iechyd yno i’ch helpu chi i gadw’n iach.

Awgrymiadau hunangymorth i’ch cynorthwyo chi i ddod yn rhiant newydd

Gall dod yn rhiant newydd fod yn brofiad llethol. Byddwch yn ystyriol o sut rydych yn teimlo a chymerwch amser i edrych ar eich ôl eich hun a’ch anghenion. Dyma rai awgrymiadau hunangymorth i’ch cynorthwyo chi i ddod yn rhiant newydd:

Adnoddau hunangymorth a dolenni defnyddiol

Gall yr adnoddau canlynol gael eu defnyddio i gael mynediad at gymorth os ydych yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl a’ch lles: