Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth mewn argyfwng

 Argyfwng iechyd meddwl (neu greisis iechyd meddwl) yw pan fydd cyflwr meddwl neu emosiynol unigolyn yn gwaethygu'n gyflym. Yn aml mae'n golygu nad ydych chi bellach yn teimlo eich bod chi'n gallu ymdopi na rheoli eich sefyllfa.

Gall argyfwng neu greisis iechyd meddwl fod yn brofiad brawychus, ond y peth pwysig i'w gofio yw nad ydych chi ar eich pen eich hun a bod cefnogaeth ar gael i'ch helpu i deimlo'n well.

P'un ai ydych chi'n profi dirywiad sydyn mewn problem iechyd meddwl sydd eisoes yn bodoli neu yn cael problemau am y tro cyntaf, y peth pwysicaf yw gofyn am help.

Rydyn ni yma i roi help a chefnogaeth, cysylltwch â ni os oes angen help brys arnoch chi.

Os ydych chi'n gyfarwydd â gwasanaethau iechyd meddwl, dylai eich Cynllun Gofal a Thriniaeth gynnwys manylion beth i'w wneud mewn argyfwng.

Os nad ydych chi'n gyfarwydd â gwasanaethau iechyd meddwl, cyfeiriwch at y rhestr isod o bwyntiau mynediad lleol ar gyfer gofal argyfwng yn eich ardal leol.

Pwyntiau mynediad lleol ar gyfer gofal argyfwng