Neidio i'r prif gynnwy

Pyllau geni (geni baban mewn dŵr)

Gall gorwedd mewn dŵr cynnes eich helpu i ymlacio, a bydd llawer o ferched yn dweud ei fod yn helpu i leddfu poen y cyfangiadau wrth esgor. Gallwch chi hefyd wneud hyn gartref yn eich bath pan fyddwch newydd gychwyn esgor. Bydd bod yn y dŵr yn eich helpu i osod eich corff mewn ffyrdd sy'n effeithiol i helpu'r esgor i barhau oherwydd mae pyllau geni yn caniatáu symud yn ddirwystr ac yn cynorthwyo eich corff i wneud beth a ddylai ei wneud.

Byddwch yn cael eich monitro'n rheolaidd tra byddwch yn y dŵr. Os bydd unrhyw bryderon am y baban neu am eich cyflwr, efallai y gwnaiff eich bydwraig neu'ch meddyg argymell y dylech ddod allan o'r pwll.

Rhagor o wybodaeth am byllau geni (geni baban mewn dŵr) fel gwasanaeth dewisiadau geni.