Neidio i'r prif gynnwy

Fitamin D

Yn ystod yr hydref a'r gaeaf, bydd angen i ni gael fitamin D o'n deiet, oherwydd ni fydd yr haul yn ddigon cryf i alluogi'r corff i gynhyrchu fitamin D. Fodd bynnag, mae'n anodd cael digon o fitamin D o fwyd yn unig. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn argymell y dylai oedolion a phlant gymryd atchwanegiad dyddiol yn cynnwys 10 microgram o fitamin D yn ystod yr hydref a'r gaeaf.

Rhwng diwedd Mawrth/dechrau Ebrill a diwedd Medi, gall y rhan fwyaf o bobl greu'r holl fitamin D y mae arnynt ei angen trwy gyfrwng golau'r haul ar eu croen ac o ddeiet cytbwys, fell gallech ddewis peidio â rhoi atchwanegiadau fitamin D i'ch plentyn yn ystod y misoedd hyn.