Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta'n Iach i Blant 5 - 12 oed

Mae bwyta ac yfed yn dda yn ystod plentyndod yn hanfodol er mwyn tyfu a datblygu'n briodol. Gall hefyd sefydlu patrymau bwyta iach i annog iechyd a lles da yn ddiweddarach yn ystod bywyd.

Mae plant 5-12 oed yn tyfu'n gyflym ac yn dod yn fwyfwy bywiog. Y ffordd orau o sicrhau y cânt yr holl fwyd a'r maetholion sydd eu hangen arnynt yw sefydlu patrwm bwyta cyson - er enghraifft, tri phryd y dydd â rhywfaint o fyrbrydau maethlon rhyngddynt.

Fel arfer, bydd y bwydydd y bydd plant o oedran ysgol yn eu bwyta fel rhan o brydau bwyd yn cynnwys amrywiaeth o faetholion, ond mae byrbrydau cyffredin (megis creision, bisgedi neu felysion) yn cynnwys llawer o galorïau ac maent yn brin iawn o faeth. Os bydd plant yn llenwi eu hunain â'r rhain, gallai hynny arwain at ddiffygion o ran maeth ac ennill pwysau dieisiau.

Mae'n bwysig annog eich plentyn i fwyta deiet cytbwys ac iach sy'n seiliedig ar egwyddorion y Canllaw Bwyta'n Dda. Mae'r canllaw hwn yn gymwys yn llawn i blant sy'n 5 mlwydd oed neu'n hŷn. Mae'n dangos y cyfansymiau gwahanol a'r mathau gwahanol o fwyd sydd eu hangen i sicrhau deiet iach a chytbwys iawn, ac mae'n cynnig trosolwg o fwydydd a diodydd argymelledig dros dreigl amser. Gwyliwch y fideo byr hwn ynghylch y Canllaw Bwyta'n Dda i gael awgrymiadau a chynghorion defnyddiol.

Dyma gynghorion ynghylch y mathau gwahanol o fwyd i'w cynnig i'ch plentyn:

Pwysau Iach

Mae plant sy'n pwyso mwy na phwysau iach yn fwy tebygol o fod felly pan fyddant yn oedolion, ac mae hynny'n cynyddu'r risg o ddal cyflyrau iechyd y gellir eu hatal gan gynnwys diabetes math 2, clefyd y galon a rhai mathau o ganser.

I helpu eich plentyn i gynnal pwysau iach, ceisiwch ei annog i:

  • Fwyta deiet iach ac amrywiol
  • Cymryd llai o fwydydd, diodydd a byrbrydau sy'n cynnwys llawer o fraster a siwgr  
  • Symud yn amlach - dylai plant fod yn fywiog am o leiaf 60 munud y dydd

Caiff arferion bwyta a ffyrdd o fyw eu sefydlu yn gynnar yn ystod ein bywydau. Mae plant yn debygol o ddewis yr un arferion bwyta â'u rheini. Mae'n bwysig i'r teulu cyfan ddewis ffordd iach o fyw.

Deiet ac iechyd deintyddol

Mae'n bwysig ceisio cyfyngu ar nifer y bwydydd a'r diodydd llawn siwgr y bydd plant yn eu cael bob dydd, ac os yn bosibl, dylent eu cael gyda phrydau bwyd yn unig. Bydd y risg o ddatblygu pydredd dannedd yn cynyddu yn unol â'r cynnydd yng nghyfanswm ac amlder y cymeriant siwgr. Gall diodydd meddal megis diodydd perfriog, sgwash a sudd ffrwythau gynnwys llawer o siwgrau rhydd a all niweidio dannedd. Felly, dewiswch fersiynau sydd â llai o siwgr a gwanedu sudd ffrwythau. Efallai bydd y diodydd hyn yn asidig hefyd, a gall hynny ddifrodi'r enamel sy'n amddiffyn dannedd. I helpu i amddiffyn dannedd, dylech annog eich plentyn i yfed dŵr neu lefrith, a chofiwch gynnig diodydd meddal ar adeg prydau bwyd yn unig.

Dylid cyfyngu ar fyrbrydau sy'n cynnwys siwgrau rhydd megis melysion, cacennau, bisgedi a siocled, yn enwedig rhwng prydau bwyd, oherwydd gallant achosi pydredd dannedd. Os bydd eich plentyn yn bwyta'r byrbrydau hyn, ceisiwch beidio â'u cynnwys yn y deiet bod dydd - dylech eu cynnig yn achlysurol yn unig a pheidio â rhoi llawer.

Mae Cynllun Gwên yn cynnig gwybodaeth ddefnyddio am fwyta'n iach i ofalu am ddannedd eich plentyn. 

Brecwast

Mae treulio amser yn dechrau'r dydd trwy fwyta brecwast maethlon yn bwysig oherwydd mae'n helpu plant i gael tanwydd ar gyfer eu corff am y diwrnod sydd ar gychwyn, ac yn darparu fitaminau, mwynau a ffibr pwysig hefyd. Dengys tystiolaeth y gall bwyta brecwast iach ar ddechrau'r diwrnod ysgol gyfrannu at wella parodrwydd i ddysgu, gwella canolbwyntio, gwella lles ac ymddygiad.

Gweler y Ddalen Ffeithiau ynghylch Bwydydd Brecwast Iach ar wefan Cymdeithas Dieteteg Prydain (BDA) i gael rhagor o wybodaeth a syniadau ynghylch brecwast iach. 

Mae llawer o rawnfwydydd brecwast wedi'u cyfnerthu â fitaminau a mwynau ychwanegol a gallant gynnig brecwast cyflym, rhwydd a maethlon. Ceisiwch ddewis y rhai sy'n cynnwys llawer o ffibr i helpu eich plentyn i deimlo'n llawnach m gyfnod hirach ac i atal rhwymedd, a gochelwch rhag byrbrydau brecwast sy'n cynnwys llawer o siwgr, e.e. unrhyw rai sydd wedi'u gorchuddio â siocled, mêl neu siwgr. 

Bwyd Ysgolion

Gall y bwyd a'r ddiod a ddarperir mewn ysgolion wneud cyfraniad buddiol tuag at sicrhau bod plant yn cael deiet iach a chytbwys a'u hannog i ddatblygu arferion bwyta da. Mae rheoliadau'r llywodraeth yn cyfarwyddo'r rhan fwyaf o ysgolion cynradd ac uwchradd i ddarparu prydau cytbwys ac iach a byrbrydau iachach. Yng Nghymru, mae'r rheoliadau hyn yn pennu safonau maeth ciniawau ysgol nodweddiadol yn ogystal â gofynion o ran bwyd a diod trwy gydol y diwrnod ysgol. Mae hyn yn golygu y dylai prydau a bwydydd eraill a weinir trwy gydol y dydd fod yn faethlon ac o ansawdd uchel.

Os ydych chi'n dewis rhoi tun bwyd i'ch plentyn, holwch a oes gan ei ysgol bolisi ynghylch tuniau bwyd. Mae gwefan y GIG yn cynnig syniadau a ryseitiau ar gyfer tuniau bwyd iach

Rhaglen Mesur Plant

Mae'r Rhaglen Mesur Plant yn mesur taldra a phwysau plant 5 oed mewn dosbarthiadau derbyn. Bydd y nyrs ysgol yn rhoi gwybodaeth am y Rhaglen Mesur Plant i rieni cyn y cysylltiad cyffredinol hwn, a bydd teuluoedd yn gallu dewis optio allan. 

Mae'r rhaglen genedlaethol hon yn caniatáu dysgu gwersi ynghylch sut mae plant yng Nghymru yn tyfu fel y gall GIG Cymru gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd yn well ac i alluogi nyrsys ysgol i asesu iechyd a datblygiad plant.

Rhagor o wybodaeth ac adnoddau