Neidio i'r prif gynnwy

Ffrwythau a llysiau

Mae llysiau a ffrwythau yn cyflenwi ystod eang o fitaminau, mwynau a ffibr. Dylai eich plentyn geisio bwyta 5 dogn y dydd o ffrwythau a llysiau amryliw i gael cymysgedd da o faetholion gwahanol. Yn achos plant oedran ysgol, oddeutu 80g yw maint argymelledig dognau, neu faint y gallant ei ddal mewn un llaw. Gall ffrwythau ffres, rhewedig, o dun a rhai sych oll gyfrannu at y cyfanswm. Gellir cynnwys ffrwythau a llysiau neu smwddis, ond gellir cyfrif y rheiny fel un yn unig o'n 5 dogn dyddiol (dim mwy na 150ml). Cofiwch olchi unrhyw ffrwythau a llysiau ffres.

Cynghorion Doeth

Gall cynnwys rhywfaint o lysiau, salad neu ffrwythau gyda phob pryd neu fyrbryd helpu eich plentyn i gyflawni'r '5 dogn y dydd' argymelledig.