Neidio i'r prif gynnwy

Diodydd

Mae ar blant angen 6 - 8 cwpanaid neu wydraid o hylif bob dydd, a bydd angen mwy pan fyddant yn fywiog neu pan fydd hi'n boeth. Bydd unrhyw ddiod yn helpu i annog hydradu ond mae'r Canllaw Bwyta'n Dda yn argymell bod dŵr, llefrith â llai o fraster a diodydd heb siwgr, yn cynnwys te a choffi, oll yn gallu cyfrannu.

Gall diodydd meddal megis diodydd pefriog, sgwash a sudd ffrwythau gynnwys llawer o siwgrau rhydd a all niweidio dannedd. Yn lle hynny, dylech ddewis fersiynau sydd â llai o siwgr a gwanedu sudd ffrwythau. Efallai bydd y diodydd hyn yn asidig hefyd, a gall hynny ddifrodi'r enamel sy'n amddiffyn dannedd.

Gall gormod o siwgr hefyd wneud i blant ennill pwysau ac mae plant sy'n yfed llawer o ddiodydd llawn siwgr yn fwy tebygol o fod dros eu pwysau.

I helpu i gynnal pwysau iach ac amddiffyn dannedd, dylech annog eich plentyn i yfed dŵr neu lefrith â llai o fraster, ac os byddwch yn cynnig diodydd meddal, dylid gwneud hynny ar adeg prydau bwyd yn unig.

Cynghorion Doeth

Gall cynnwys diod gyda phob pryd a byrbryd helpu eich plentyn i yfed y cyfanswm argymelledig o 6 - 8 gwydraid o hylif y dydd

Wrth ddewis diodydd, ceisiwch:

  • Dewis dŵr neu lefrith â llai o fraster yn lle diodydd llawn siwgr
  • Cynnig sudd ffrwythau ar adegau prydau bwyd yn unig a'i wanedu â dŵr
  • Cynnig llai o ddiodydd pefriog
  • Cwtogi ar gyfanswm y siwgr a roddir mewn te a choffi
  • Gwirio faint o siwgr sydd mewn diodydd dŵr â blas