Neidio i'r prif gynnwy

Bwydydd startsh

Mae bwydydd startsh yn cynnwys bara, tatws, grawnfwydydd brecwast, reis, pasta a nwdls. Maent yn ffynhonnell bwysig o egni a ffibr, a rhai fitaminau hefyd. Dylai oddeutu un rhan o dair o'r bwyd rydym yn ei fwyta fod yn fwydydd startsh, a dylid eu cynnwys ym mhob pryd. Gall dewis opsiynau â llawer o ffibr megis bara, grawnfwydydd, reis a phasta grawn cyflawn neu wenith cyflawn, a thatws â chrwyn arnynt, helpu i gynnal system dreulio iach weithredol

Cynghorion Doeth

Anogwch eich plentyn i fwyta brecwast - mae bwyta bwydydd startsh (e.e. tost neu rawnfwyd) yn ddechrau gwych i ddiwrnod eich plentyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran brecwast isod.