Neidio i'r prif gynnwy

Bwydydd llawn protein

Dylid cynnwys rhai bwydydd sy'n llawn protein fel ffa, codlysiau, pysgod, wyau, cig, dewisiadau cig a chnau yn ddyddiol.

Mae plant oedran ysgol angen 2 ddogn o gig neu bysgod bob dydd neu 2-3 dogn o ddewisiadau llysieuol amgen. Mae protein yn cefnogi atgyweirio ac adnewyddu celloedd yn y corff bob dydd. Yn ogystal, mae llawer o'r bwydydd hyn yn darparu ffynhonnell gyfoethog o fwynau fel haearn, sydd ei angen i wneud celloedd gwaed coch iach ac sy'n arbennig o bwysig ar adegau o dwf cyflym ac i ferched pan fyddant yn dechrau eu misglwyf. Mae ffa a chorbys hefyd yn ffynhonnell wych o ffibr yn ogystal â phrotein. Mae pysgod olewog fel eog a sardinau yn ffynhonnell gyfoethog o asidau brasterog omega-3 - ceisiwch roi pysgod olewog i'ch plentyn unwaith yr wythnos.

Awgrym Da

Cynhwyswch lai o gynhyrchion cig a physgod wedi'u prosesu gyda phrydau fel bwydydd wedi'u gorchuddio â briwsion, cig moch, byrgyrs ham, pasteiod, selsig a chigoedd tun. Mae'r rhain yn opsiynau llai iach oherwydd faint o halen a braster a ychwanegir wrth gynhyrchu.

Mae fitamin C yn helpu i amsugno haearn o ffynonellau planhigion felly mae cael diod neu fwyd sy'n cynnwys fitamin C gyda phryd sy'n llawn haearn yn syniad da, er enghraifft gwydraid o sudd ffrwythau gyda phowlen o rawnfwyd cyfnerthedig haearn.