Ceisiwch yfed 6 - 8 gwydraid o hylif bob dydd. Gall dŵr, llefrith â llai o fraster a diodydd heb siwgr gan gynnwys te a choffi oll gyfrannu at y cyfanswm. Mae sudd ffrwythau a smwddis hefyd yn cyfrif tuag at eich cymeriant hylif, ond maent yn ffynhonnell o siwgrau rhydd, felly dylech eu cyfyngu i ddim mwy na 150ml y dydd gyda'i gilydd.
Diodydd llawn siwgr yw un o'r pethau sy'n cyfrannu fwyaf at gymeriant siwgr gormodol ymhlith plant yn eu harddegau yn y DU. Yn lle diodydd meddal llawn siwgr, dewiswch fathau deiet, heb siwgr neu rai heb siwgr wedi'i ychwanegu i leihau'r cymeriant siwgr.
Mae diodydd egni yn boblogaidd ymhlith llawer o bobl ifanc, ond mae nifer ohonynt yn cynnwys llawer o galorïau a chaffein a symbylyddion eraill. Gall yfed y rhain darfu ar gwsg, gwneud i rywun deimlo'n bigog, achosi anhwylderau ar y stumog a theimladau cynhyrfus. Mae'n iachach yfed dŵr a llefrith, a gall plant yn eu harddegau gael yr holl egni y mae ei angen arnynt trwy fwyta deiet cytbwys ac iach.
Wrth ddewis diodydd, dylech geisio: