Neidio i'r prif gynnwy

Cynnyrch llaeth a dewisiadau amgen

Mae cynnyrch llaeth megis llefrith, caws ac iogwrt a dewisiadau amgen yn cynnwys llawer o galsiwm, sy'n ofynnol i ddatblygu ac amddiffyn ein hesgyrn. Mae'r bwydydd hyn hefyd yn cynnwys rhywfaint o brotein a maetholion buddiol eraill. Mae'r Canllaw Bwyta'n Dda yn argymell 3 dogn o lefrith a chynnyrch llaeth bob dydd. Mae enghreifftiau o un dogn yn cynnwys 30g o gaws Cheddar, 125g o iogwrt neu 200ml o lefrith. Dewiswch lefrith hanner sgim neu sgim, iogwrt heb lawer o fraster a chaws â llai o fraster i helpu i gyfyngu ar gyfanswm y cymeriant braster heb leihau'r calsiwm, oherwydd maent yn cynnwys tua'r un faint o galsiwm â fersiynau llefrith cyflawn.

Mae'n bwysig darllen labeli dewisiadau amgen a gynigir yn lle cynnyrch llaeth, e.e. llaeth soia, ceirch, cnau almon a chnau coco, i sicrhau eu bod wedi'u cyfnerthu â chalsiwm. Mae dewis mathau heb eu melysu hefyd yn fuddiol oherwydd maent yn cynnwys llai o siwgr. 

Cyngor Doeth

Cofiwch y gall cwstard a phwdin reis neu fathau eraill o bwdin llefrith fod yn un o'n dognau o 'gynnyrch llaeth a dewisiadau amgen'  – dewiswch fathau sy'n cynnwys llai o fraster i gael byrbryd cyflym a maethlon ac ychwanegwch rywfaint o ffrwythau.