Neidio i'r prif gynnwy

Eich brechlyn rhag COVID-19

Bydd y rhai sy'n wynebu'r risg uchaf o salwch difrifol yn cael cynnig brechlyn rhag COVID-19 yr hydref hyn

Mae COVID-19 yn parhau i gylchredeg yng Nghymru, ac mae’n fwy tebygol o achosi salwch difrifol i bobl hŷn a phobl â chyflyrau iechyd sylfaenol.

Os ydych chi neu'ch anwyliaid yn gymwys i gael brechlyn rhag COVID-19, gwnewch yn siŵr eich bod wedi ychwanegu at eich amddiffyniad. Mae brechlynnau COVID-19 yn gyflym ac yn ddiogel iawn, ac yn lleihau eich risg o salwch difrifol a chael eich derbyn i’r ysbyty.
 

Ydw i'n gymwys cael brechlyn rhag COVID-19?

Yr hydref hwn, bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i:

  • pob oedolyn 75 oed a hŷn
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • pob oedolyn a phlentyn chwe mis oed ac yn hŷn sydd â system imiwnedd wannach oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol

Mae hyn yn cynnwys pawb yng Ngogledd Cymru a fydd yn dathlu eu pen-blwydd yn 75 mlwydd oed ar 31 Ionawr 2027 neu cyn hynny. Mae mwy o wybodaeth am gleifion sy'n gymwys oherwydd imiwnedd gwannach ar gael yma.

Mae arweiniad pellach am gymhwystra ar gael gan Lywodraeth Cymru
 

Sut mae cael brechlyn rhag COVID-19?

Bydd eu meddygfa neu’r Bwrdd Iechyd yn cysylltu ag oedolion sy'n gymwys ar gyfer brechlyn ffliw'r GIG er mwyn cynnig apwyntiad i dderbyn y brechlyn, neu gallant fynychu clinig brechu yn eu meddygfa. Bydd y rhan fwyaf o oedolion yn cael cynnig apwyntiad i gael eu brechlyn COVID-19 yn eu meddygfa ar yr un pryd â'u brechlyn ffliw blynyddol gan y GIG.

Efallai y bydd cleifion sydd wedi cofrestru yn y nifer fach o bractisau meddygon teulu nad ydynt yn gallu cynnig y brechlyn rhag COVID-19 yn cael cynnig apwyntiad yn un o'n ganolfannau brechu'r gymunedol neu mewn fferyllfa gymunedol leol.

Bydd ein timau’n trefnu i frechu pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn gyda rheolwyr y cartrefi gofal. Byddwn hefyd yn cysylltu â phobl sy'n gaeth i'r tŷ i drefnu brechiad.

Cynigir brechlyn COVID-19 yr Hydref fel arfer oddeutu chwe mis (a lleiafswm o dri mis) ar ôl dyddiad brechlyn COVID-19 blaenorol y claf.

Bydd ymgyrch frechu COVID-19 yr Hydref yn dod i ben ar 31 Ionawr 2027. 
 

Mwy o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechlyn rhag COVID-19 yr Hydref, eich brechlynnau rhag y ffliw y GIG a RSV, a’r newyddion diweddaraf am ein hymgyrch frechu drwy’r dolenni isod.

Cysylltwch â ni

Ar gyfer ymholiadau am frechu ffliw neu ss nad ydych wedi cael gwahoddiad i apwyntiad brechu, cysylltwch y Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004 neu e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk.

Os bydd angen i chi aildrefnu eich apwyntiad, dilynwch y cyfarwyddiadau ar eich gwahoddiad. 

Mae'r ganolfan gyswllt ar agor 9.30am to 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau banc.

Rhagor o wybodaeth am ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu.

 

Tocyn COVID y GIG

Mae Tocyn COVID y GIG bellach wedi cau. Gweler mwy o wybodaeth yma.