Neidio i'r prif gynnwy

Galw'r Ganolfan Gyswllt Brechu rhag COVID-19

Pa wybodaeth ydych chi'n ei chasglu oddi wrthyf i?

Pan fyddwch yn ffonio’r Ganolfan Gyswllt Brechu rhag COVID-19 (neu pan fyddwn yn eich ffonio), byddwn yn gofyn i chi roi rhywfaint o wybodaeth sylfaenol i ni, fel eich enw, dyddiad geni a chyfeiriad, rhif ffôn ac enw eich meddyg teulu i helpu ni i ddod o hyd i'ch cofnod claf ar ein system.

Ar gyfer beth ydych chi'n defnyddio fy ngwybodaeth bersonol?

Mae angen y wybodaeth hon arnom i roi’r wybodaeth gywir i chi a hefyd er mwyn:

  • Creu a chynnal cofnod iechyd personol
  • Sicrhau bod gennym yr unigolyn cywir ar y ffôn er enghraifft os bydd angen i ni eich ffonio'n ô
  • Helpu staff i adolygu'r gofal a ddarperir ganddynt i sicrhau ei fod o'r safon uchaf
  • Addysgu a hyfforddi staff
  • Adolygu adborth cwsmeriaid, gan gynnwys ymchwilio i bryderon a chwynion
  • Cynnal archwiliadau dienw
  • Dim ond gyda'ch caniatâd chi, cysylltu â chi i gasglu adborth ar y gofal a gawsoch.

Ble a sut ydych chi'n storio fy ngwybodaeth?

Mae'r holl alwadau i ac o'r Ganolfan Gyswllt Brechu rhag COVID-19 yn cael eu recordio. Cedwir y cofnodion yn ddiogel ar system Bwrdd Iechyd.

Mae gan staff y Bwrdd Iechyd ddyletswydd gyfreithiol a phroffesiynol i gadw gwybodaeth am gleifion yn gyfrinachol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi'i dogfennu a'i chofnodi ar ein systemau cyfrifiadurol diogel. Ni fydd gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i drydydd parti heb eich caniatâd a byddai hyn at ddiben penodol ac o dan amgylchiadau eithriadol, er enghraifft sefyllfa bywyd a marwolaeth neu lle mae’r gyfraith yn mynnu bod gwybodaeth yn cael ei datgelu.

Beth os nad wyf am roi unrhyw wybodaeth bersonol?

Eich dewis chi yn llwyr yw faint o'ch gwybodaeth bersonol yr hoffech ei rhannu â ni. Gallwch gysylltu â ni'n ddienw, fodd bynnag, ystyriwch y bydd angen rhywfaint o wybodaeth o leiaf i'n helpu i roi cyngor a chymorth i chi gyda'ch ymholiad.

A oes cyfreithiau sy'n rheoli'r defnydd o'm gwybodaeth?

Deddf Diogelu Data (2018, Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR) 2016, Deddf Hawliau Dynol (1998) a Deddf Rhyddid Gwybodaeth (2000).

Sut mae gwybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer hyfforddiant?

Er mwyn sicrhau bod ein staff yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i boblogaeth Gogledd Cymru, mae treulio amser yn gwrando ar alwadau yn rhan hanfodol o hyfforddiant a datblygiad staff. Cysylltwch â ni os oes gennych bryderon am hyn.

A oes modd i mi eich atal chi rhag cysylltu â mi ynglyn â’r brechlyn?

Gallwch ein hatal rhag cysylltu â chi ynglŷn â chael eich brechu (naill ai’n barhaol neu dros dro) drwy ein hysbysu drwy e-bost - BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk neu drwy ffonio Canolfan Gyswllt Brechu rhag COVID-19 ar 03000 840004.

A allaf gael mynediad at fy nghofnodion?

Mae gennych hawl mynediad i ofyn am y wybodaeth sydd gennym amdanoch. Mae rhagor o wybodaeth am gael mynediad at eich cofnodion personol a gwybodaeth am gleifion ar gael yn y rhestr isod: