- Rydym yn rhoi cyfleoedd i'n plentyn gymryd rhan mewn pethau newydd sy'n helpu i'w cadw'n iach.
- Rydym yn gwneud amser i'n plentyn fod yn yr awyr agored, rhoi cynnig ar bethau newydd a phrofi sgiliau newydd.
- Rydym yn darparu cefnogaeth i'n plentyn gadw'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol.
- Rydym yn sicrhau bod gan ein plentyn drefn cysgu a phatrwm cysgu iach.
- Rydym yn annog ein plentyn i gael seibiant o ffonau symudol, sgriniau teledu a dyfeisiau clyfar cyn amser gwely.
- Rydym yn sicrhau bod gan ein plentyn fynediad at y bwydydd sydd eu hangen ar gyfer deiet cytbwys. Rydym yn rhoi cyfleoedd diogel i ymarfer sgiliau paratoi bwyd iach a'i goginio mewn ffordd ddiogel ac ymarferol.
Cysylltiadau â rhannau eraill o bum ffordd at les: