Neidio i'r prif gynnwy

8-11 mlwydd oed

Yn yr oedran hwn, mae bydoedd plant yn ehangu ac maent yn dechrau dod yn fwy annibynnol gartref, yn yr ysgol ac yn eu cymuned ehangach. ​  Mae gennych rôl bwysig fel rhiant neu oedolyn dibynadwy i annog hyn trwy eu helpu i ddatblygu eu cysylltiadau cymdeithasol, perthnasoedd a rhwydweithiau cymorth. 

Caniatewch iddynt archwilio eu diddordebau eu hunain wrth ddysgu am ffiniau. ​ Anogwch nhw i fod yn gwrtais, yn ystyriol ac yn barchus tuag at eraill a chynnig help os oes ei angen ar eraill. ​   

Mae plant o'r oedran hwn yn datblygu eu hymwybyddiaeth emosiynol; helpwch eich plentyn i weithio trwy ei deimladau yn ogystal â'i helpu i ddeall sut y gall eraill deimlo. 

Mae chwarae yn dal i fod yn bwysig i blant yn y cyfnod hwn o'u datblygiad.  Caniatewch iddynt dreulio amser yn chwarae a chreu storïau creadigol a llawn dychymyg. ​​  Cefnogwch nhw i roi cynnig ar weithgareddau newydd ac i ddyfalbarhau pan allai fod yn anodd neu pan fyddant yn gwneud camgymeriadau. ​ Atgoffwch nhw i chwarae'n deg a bod yn garedig. ​

Cefnogwch eich plentyn i wneud dewisiadau iach ar gyfer ei les corfforol a meddyliol. Gallwch greu cyfleoedd i’ch plentyn ddysgu sut i ofalu am ei les ei hun. ​​  Byddwch yn fodel rôl positif i'ch plentyn. ​ 

Cefnogwch nhw i ddysgu am ddefnyddio'r rhyngrwyd a thechnoleg mewn ffordd ddiogel. ​  Helpwch nhw i ddysgu sut i wneud penderfyniadau gwybodus. ​

Cliciwch isod i ddarganfod mwy.  Cofiwch fod un gweithgaredd, fel chwarae gyda’ch plentyn, yn aml yn golygu eich bod wedi cyflawni llawer o’r pum ffordd at les trwy un gweithgaredd.  Mae enghreifftiau o weithgareddau yn cynnwys:

Nid oes angen gwario arian wrth gadw at y Pum Ffordd at Les.​  Mae’n ymwneud yn fwy â bod yn bresennol yn yr eiliad (rhoi’r ffôn i’r ochr am ychydig funudau) a rhoi o'ch amser a’ch sylw i’ch plentyn. ​ 

Caniatewch i'ch plentyn Gysylltu gyda'i ffrindiau a Bod yn Actif yn y parc.  Ehangwch eu dealltwriaeth a chaniatewch iddynt Ddal Ati i Ddysgu trwy eu dysgu sut i goginio pryd syml. ​  Rhowch o'ch amser a'ch sylw i wrando ar sut aeth eu diwrnod yn yr ysgol. ​ Anogwch nhw i Fod yn Sylwgar o anghenion eu hanifeiliaid anwes a gofalu amdanyn nhw gyda chi. ​